Tudalen 1 o 1

Newydd Symud i Gymru

PostioPostiwyd: Iau 18 Hyd 2012 12:46 am
gan Gwenci Ddrwg
Helo pawb, does na ddim llawer o weithgarwch ar y wefan 'ma dyddiau 'ma, ond dwi'n gobeithio bod rhai ohonoch chi'n cofio fi. Ro'n i'n postio ar y fforwm 'ma rhai blynyddoedd yn ôl.

Fel mae'r teitl yn deud, dwi 'di symud i Gymru am astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd. Dwi di bod yn cymryd cwrsiau (uwch!) Cymraeg diolch i'r ymarfer y cais i ar y wefan 'ma (acen Canadaidd + siarad Cymraeg = WTF, who the f*ck are you and where the f*ck did you learn Welsh in f*cking Canada? Holy shite!), mae'n ffecin hilariws. Eniwe, diolch am y cefnogaeth y cais i yma, dwi'n rili gwerthfawrogi hi.

Re: Newydd Symud i Gymru

PostioPostiwyd: Gwe 19 Hyd 2012 2:35 am
gan C++
Gwych, croeso i Gymru.

Pa ran o'r brifddinas?

Re: Newydd Symud i Gymru

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2012 5:05 pm
gan Gwenci Ddrwg
Cathays, agos i'r brifysgol.

Clywes i bod 'na cylch o siaradwyr/dysgwyr Cymraeg sy'n cyfarfod yn y Mochyn Du pob mis, falla wna i fynd yno y tro nesaf.

Re: Newydd Symud i Gymru

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2012 5:23 pm
gan sian
Helo Wenci
Croeso i Gymru!
Gobeithio gwnei di fwynhau dy amser yma.