Tudalen 1 o 2

Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 8:54 am
gan Rhodri Nwdls
Dwi di bod yn siarad am fforymau a ffyrdd gwell o gynnal trafodaeth arlein yn Gymraeg wythnos yma. Mae Reddit yn profi, os oedd angen, bod message boards yn fyw ac iach ac yn rhan fawr o ddiwylliant rhyngrwyd dal i fod.

Felly pa ffordd well o brofi'r dyfroedd unwaith eto ond drwy gael corwynt o weithgarwch am ddiwrnod ar yr hen ffrind, maes-e.com.

Felly sut i gymryd rhan? Postiwch un neges, ac ymatebwch i o leiaf un yn ystod y dydd.

Mwynhewch! :gwyrdd: :gwyrdd: :gwyrdd: :gwyrdd: :P :P :P :P 8) 8) 8)

Rh

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 9:32 am
gan mam y mwncis
Ok - dwi nol , ond mi sylwith y rhai craff fod mwnci arall wedi dyfod ers I mi ymelodi yn wreiddiol! lets do this!

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 9:44 am
gan ifanceinion
Newydd gael fy hanner-ddeffro gan Twitter ar fy ffôn, yn dweud bod "@DaiLingual a 2 arall yn trydar am #dyddmaese"!

Syniad ffantastig. Gobeithio bydd yr arbrawf yma yn profi bod fforwm agored Cymraeg yn beth defnyddiol a pherthnasol yn yr oes modern sydd ohoni...

(Ydach chi 'di ystyried (neu glywed am) Discourse o gwbl gyda llaw? Dan ni 'di cael canlyniadau reit dda efo fo draw ar SSiW.)

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:02 am
gan Rhodri Nwdls
mam y mwncis a ddywedodd:Ok - dwi nol , ond mi sylwith y rhai craff fod mwnci arall wedi dyfod ers I mi ymelodi yn wreiddiol! lets do this!

Ma na fwncwns maes-e dirifedi 10 mlynedd yn ddiweddarach. Da ni hyd yn oed di pasio'r stêj siarad am napis.

Bydd rhai yn gallu sgwennu ar y maes... :ofn:

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:10 am
gan Rhodri Nwdls
ifanceinion a ddywedodd:Syniad ffantastig. Gobeithio bydd yr arbrawf yma yn profi bod fforwm agored Cymraeg yn beth defnyddiol a pherthnasol yn yr oes modern sydd ohoni...

Sdim ond angen cnewyllyn bach o ddefnyddwyr cyson i gael fforwm i weithio. Mae na fwlch mawr rhwng trafodaeth ffurf byr a ffurf hir yn Gymraeg, a dim llefydd call ar gyfer trafodaeth nôl a mlaen estynedig. Mae fforwm yn gallu llenwi'r bwlch yna. Dwi ddim yn meddwl fasa fo r'un peth â maes-e ond y cwestiwn ydi sut beth fasa fo?

ifanceinion a ddywedodd:(Ydach chi 'di ystyried (neu glywed am) Discourse o gwbl gyda llaw? Dan ni 'di cael canlyniadau reit dda efo fo draw ar SSiW.)

Heb weld hwnna. Difyr. Sa'n ddiddorol gwybod be fasa pobl isio allan o fforwm? Be fasa'n atal nhw rhag ei ddefnyddio?

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:12 am
gan Macsen
Cytuno bod angen rhagor o weithgarwch ar Maes-e. Ond mae angen i Maes-e symud gyda'r oes hefyd. Llawer gormod o seiadau, is-seiadau, ayyb. Ac mae'r dylunio yn edrych braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn. :o

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:27 am
gan Rhodri Nwdls
Macsen a ddywedodd:Cytuno bod angen rhagor o weithgarwch ar Maes-e. Ond mae angen i Maes-e symud gyda'r oes hefyd. Llawer gormod o seiadau, is-seiadau, ayyb. Ac mae'r dylunio yn edrych braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn. :o

Fyddai'n well "archifo" yr holl seiadau a dim ond cael un seiad newydd? Teimlo fel y byddai angen dechreuad newydd i gael unrhyw fath o fomentwm nôl.

Wn i ddim os ydi phpBB yn gallu edrych yn ddim byd ond hen ffasiwn? Mae na ddiweddariad o maes-e i fersiwn newydd o'r system ar ei ffordd rhywbryd fel dwi'n deall...

Ond mae Discourse yn edrych fel platfform da. Dwi'n credu taw hwnna mae BBS BoingBoing yn ei ddefnyddio. Wnaethoch chi lwyddo i drosglwyddo cyfrifon o phpBB i hwnna Ifan?

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:50 am
gan dafydd
Mi fydd yna ddiweddariad i feddalwedd phpBB ar maes-e, fydd yn gwneud pethau'n haws o ran mewngofnodi, newid y diwyg ac ati. Yn bersonol dwi ddim yn ei weld yn hen ffasiwn i gymharu a llawer o fforymau llwyddiannus yn Saesneg.

Er enghraifft mae Digital Spy yn fwrdd trafod traddodiadol yn llawn is-seiadau ond mae wedi denu cynulleidfa a'i gadw yno. Mae yn fantais fod yna gwefan 'pen blaen' sydd yn fenter fasnachol ac yn llawn newyddion ac erthyglau i ennyn ymateb (a mae yna sylwadau ar yr erthyglau hynny er nad yw'n bwydo mewn i'r fforwm).

O ran dylunio, dwi'n meddwl fod Reddit yn un o'r rhai gwaetha a mae'r holl is-adrannau yn ddryslyd iawn. Ond mae'r defnyddwyr cyson yn amlwg yn gwybod lle i fynd a dewis eu hoff adrannau.

Nôl yng Nghymru, mae yna fforwm Cardiff WalesMap ar gyfer datblygiadau busnes/masnach/adeiladau yng Nghaerdydd. Am flynyddoedd roedd yn defnyddio bwrdd trafod 'am ddim' ar Bravenet oedd yn gwbl crap. Ond fe roedd yn ddigon prysur am fod cymuned wedi ei adeiladu. Roedd hi'n posib postio yn anhysbys ar yr hen fforwm hefyd oedd yn golygu llawer iawn o ddadlau/trolio ond hefyd prysurdeb. Mae'r fforwm newydd ar phpBB a wedi dechrau prysuro eto gyda nifer fach o gyfrannwyr cyson.

Dwi'n meddwl mod i wedi dweud hyn o'r blaen ond mae'n bosib nad yw fforwm holl-gynhwysol 'Cymraeg' yn gweithio mor dda erbyn am fod fforymau yn dueddol o drafod pynciau penodol (Cyfryngau/Busnes/Chwaraeon ayyb), felly mi fyddan angen cyfeirio pobl at is-adrannau penodol (fel mae pobl yn defnyddio reddit am wn i).

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 11:41 am
gan Macsen
dafydd a ddywedodd:Er enghraifft mae Digital Spy yn fwrdd trafod traddodiadol yn llawn is-seiadau ond mae wedi denu cynulleidfa a'i gadw yno. Mae yn fantais fod yna gwefan 'pen blaen' sydd yn fenter fasnachol ac yn llawn newyddion ac erthyglau i ennyn ymateb (a mae yna sylwadau ar yr erthyglau hynny er nad yw'n bwydo mewn i'r fforwm).


Roedd nifer o is-seiadau yn iawn ar y Maes pan oedd lot o fynd yma - yn yr un modd ac y mae ty mawr yn iawn os yw'n llawn pobl. Ond pan y mae pawb yn gadael mae'r ty mawr yn teimlo'n fwy gwag ac unig nag yw'r bwthyn. Fel ag y mae hi mae 'maint' y Maes yn pwysleisio'r teimlad o wacter.

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 12:30 pm
gan Rhodri Nwdls
dafydd a ddywedodd:Mi fydd yna ddiweddariad i feddalwedd phpBB ar maes-e, fydd yn gwneud pethau'n haws o ran mewngofnodi, newid y diwyg ac ati. Yn bersonol dwi ddim yn ei weld yn hen ffasiwn i gymharu a llawer o fforymau llwyddiannus yn Saesneg.

Oes na olygydd testun chydig mwy WYSIWYG na BBCode ar fersiynau newydd? Mae'r markup BBCoide yn teimlo braidd yn drwsgwl erbyn hyn.
dafydd a ddywedodd:Mae yn fantais fod yna gwefan 'pen blaen' sydd yn fenter fasnachol ac yn llawn newyddion ac erthyglau i ennyn ymateb (a mae yna sylwadau ar yr erthyglau hynny er nad yw'n bwydo mewn i'r fforwm).

Beth am Ffrwti fel pen blaen?
dafydd a ddywedodd:Dwi'n meddwl mod i wedi dweud hyn o'r blaen ond mae'n bosib nad yw fforwm holl-gynhwysol 'Cymraeg' yn gweithio mor dda erbyn am fod fforymau yn dueddol o drafod pynciau penodol (Cyfryngau/Busnes/Chwaraeon ayyb), felly mi fyddan angen cyfeirio pobl at is-adrannau penodol (fel mae pobl yn defnyddio reddit am wn i).

Cael o nôl lawr i 5 categori a byddai'n iawn dwi'n meddwl. Ma'r un Boing Boing yn eitha syml, ond wedi ei arwain gan ddiwylliant y wefan a'r teip o bethau ma nhw'n trafod.

Materion Cyfoes / Pynciau Llosg (edefynnau wedi eu creu'n awtomatig o ffrwd Ffwti?), Cerdd/Celf/Cyfryngau, Technoleg, Iaith, Sdwff (categori catch all), Chwaraeon? a Meta

Debyg bod modd 'brandio' is-adrannau mewn ffordd weledol wahanol erbyn hyn oes?