Felly pa ffordd well o brofi'r dyfroedd unwaith eto ond drwy gael corwynt o weithgarwch am ddiwrnod ar yr hen ffrind, maes-e.com.
Felly sut i gymryd rhan? Postiwch un neges, ac ymatebwch i o leiaf un yn ystod y dydd.
Mwynhewch!











Rh
mam y mwncis a ddywedodd:Ok - dwi nol , ond mi sylwith y rhai craff fod mwnci arall wedi dyfod ers I mi ymelodi yn wreiddiol! lets do this!
ifanceinion a ddywedodd:Syniad ffantastig. Gobeithio bydd yr arbrawf yma yn profi bod fforwm agored Cymraeg yn beth defnyddiol a pherthnasol yn yr oes modern sydd ohoni...
ifanceinion a ddywedodd:(Ydach chi 'di ystyried (neu glywed am) Discourse o gwbl gyda llaw? Dan ni 'di cael canlyniadau reit dda efo fo draw ar SSiW.)
Macsen a ddywedodd:Cytuno bod angen rhagor o weithgarwch ar Maes-e. Ond mae angen i Maes-e symud gyda'r oes hefyd. Llawer gormod o seiadau, is-seiadau, ayyb. Ac mae'r dylunio yn edrych braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn.
dafydd a ddywedodd:Er enghraifft mae Digital Spy yn fwrdd trafod traddodiadol yn llawn is-seiadau ond mae wedi denu cynulleidfa a'i gadw yno. Mae yn fantais fod yna gwefan 'pen blaen' sydd yn fenter fasnachol ac yn llawn newyddion ac erthyglau i ennyn ymateb (a mae yna sylwadau ar yr erthyglau hynny er nad yw'n bwydo mewn i'r fforwm).
dafydd a ddywedodd:Mi fydd yna ddiweddariad i feddalwedd phpBB ar maes-e, fydd yn gwneud pethau'n haws o ran mewngofnodi, newid y diwyg ac ati. Yn bersonol dwi ddim yn ei weld yn hen ffasiwn i gymharu a llawer o fforymau llwyddiannus yn Saesneg.
dafydd a ddywedodd:Mae yn fantais fod yna gwefan 'pen blaen' sydd yn fenter fasnachol ac yn llawn newyddion ac erthyglau i ennyn ymateb (a mae yna sylwadau ar yr erthyglau hynny er nad yw'n bwydo mewn i'r fforwm).
dafydd a ddywedodd:Dwi'n meddwl mod i wedi dweud hyn o'r blaen ond mae'n bosib nad yw fforwm holl-gynhwysol 'Cymraeg' yn gweithio mor dda erbyn am fod fforymau yn dueddol o drafod pynciau penodol (Cyfryngau/Busnes/Chwaraeon ayyb), felly mi fyddan angen cyfeirio pobl at is-adrannau penodol (fel mae pobl yn defnyddio reddit am wn i).
Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai