Mi fydd yna ddiweddariad i feddalwedd phpBB ar maes-e, fydd yn gwneud pethau'n haws o ran mewngofnodi, newid y diwyg ac ati. Yn bersonol dwi ddim yn ei weld yn hen ffasiwn i gymharu a llawer o fforymau llwyddiannus yn Saesneg.
Er enghraifft mae
Digital Spy yn fwrdd trafod traddodiadol yn llawn is-seiadau ond mae wedi denu cynulleidfa a'i gadw yno. Mae yn fantais fod yna gwefan 'pen blaen' sydd yn fenter fasnachol ac yn llawn newyddion ac erthyglau i ennyn ymateb (a mae yna sylwadau ar yr erthyglau hynny er nad yw'n bwydo mewn i'r fforwm).
O ran dylunio, dwi'n meddwl fod
Reddit yn un o'r rhai gwaetha a mae'r holl is-adrannau yn ddryslyd iawn. Ond mae'r defnyddwyr cyson yn amlwg yn gwybod lle i fynd a dewis eu hoff adrannau.
Nôl yng Nghymru, mae yna fforwm
Cardiff WalesMap ar gyfer datblygiadau busnes/masnach/adeiladau yng Nghaerdydd. Am flynyddoedd roedd yn defnyddio bwrdd trafod 'am ddim' ar Bravenet oedd yn gwbl crap. Ond fe roedd yn ddigon prysur am fod cymuned wedi ei adeiladu. Roedd hi'n posib postio yn anhysbys ar yr hen fforwm hefyd oedd yn golygu llawer iawn o ddadlau/trolio ond hefyd prysurdeb. Mae'r fforwm newydd ar phpBB a wedi dechrau prysuro eto gyda nifer fach o gyfrannwyr cyson.
Dwi'n meddwl mod i wedi dweud hyn o'r blaen ond mae'n bosib nad yw fforwm holl-gynhwysol 'Cymraeg' yn gweithio mor dda erbyn am fod fforymau yn dueddol o drafod pynciau penodol (Cyfryngau/Busnes/Chwaraeon ayyb), felly mi fyddan angen cyfeirio pobl at is-adrannau penodol (fel mae pobl yn defnyddio reddit am wn i).