Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese
Postiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 1:47 pm
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Oes na olygydd testun chydig mwy WYSIWYG na BBCode ar fersiynau newydd? Mae'r markup BBCoide yn teimlo braidd yn drwsgwl erbyn hyn.
Ddim yn y fersiwn newydd 3.1 ond falle fydd estyniad wysiwyg syml ar gael cyn hir. Mae yna broblemau diogelwch o adael golygu HTML a dwi ddim ymwybodol o unrhyw system fforwm/sylwadau difrifol sy'n caniatau nhw. Mae Discourse yn defnyddio Markdown/BBCode ond gyda rhagolwg WYSIWYG sy'n eitha defnyddiol.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Beth am Ffrwti fel pen blaen?
Ie fe allai unrhyw wefan fod yn ben blaen er mwyn cyfeirio at edefyn sy'n bodoli yn barod neu wedi ei greu ar gyfer pwrpas penodol.
Dwi'n meddwl fod gwahaniaeth mawr rhwng fforwm pen-agored fel maes-e a gwefan/blog amlgyfrannog wedi ei guradu sy'n agored i sylwadau (fel Slashdot/Boing Boing). Dwi ddim yn meddwl fod hi'n gwneud synnwyr o newid maes-e i fod yn debyg i'r ail beth a mi fyddai angen edrych ar rhywbeth ar wahan.