Tudalen 2 o 2

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 1:47 pm
gan dafydd
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Oes na olygydd testun chydig mwy WYSIWYG na BBCode ar fersiynau newydd? Mae'r markup BBCoide yn teimlo braidd yn drwsgwl erbyn hyn.

Ddim yn y fersiwn newydd 3.1 ond falle fydd estyniad wysiwyg syml ar gael cyn hir. Mae yna broblemau diogelwch o adael golygu HTML a dwi ddim ymwybodol o unrhyw system fforwm/sylwadau difrifol sy'n caniatau nhw. Mae Discourse yn defnyddio Markdown/BBCode ond gyda rhagolwg WYSIWYG sy'n eitha defnyddiol.

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Beth am Ffrwti fel pen blaen?

Ie fe allai unrhyw wefan fod yn ben blaen er mwyn cyfeirio at edefyn sy'n bodoli yn barod neu wedi ei greu ar gyfer pwrpas penodol.

Dwi'n meddwl fod gwahaniaeth mawr rhwng fforwm pen-agored fel maes-e a gwefan/blog amlgyfrannog wedi ei guradu sy'n agored i sylwadau (fel Slashdot/Boing Boing). Dwi ddim yn meddwl fod hi'n gwneud synnwyr o newid maes-e i fod yn debyg i'r ail beth a mi fyddai angen edrych ar rhywbeth ar wahan.

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 5:46 pm
gan sara_huws
Taro i fewn i ddweud helo

O ran platfform, oes rhywun arall ym'n defnyddio Kinja? Ffordd o flogio, trafod a gadael sylwadau - well o lawer gen i na reddit/boingboing ac ati yn bersonol. Diddordeb gwbod be dech chi'n feddwl amdano...

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 6:59 pm
gan ifanceinion
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Dwi'n credu taw hwnna mae BBS BoingBoing yn ei ddefnyddio.

'Na fo!

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Wnaethoch chi lwyddo i drosglwyddo cyfrifon o phpBB i hwnna Ifan?

Mae'n bosib gwneud - mae Discourse yn dod efo casgliad o sgriptiau i fewnforio cyfrifon (a negeseuon!) o sustemau fforwm amrywiol - phpBB yn un ohonynt.

Wnaethon ni ddim ddo; roedd gynnon ni ddau set o gyfrifon yn barod (oherwydd diffyg integreiddio cwpl o flynyddoedd yn ôl rhwng y fforwm a'r "wefan newydd"), felly oedd rhaid i mi sgwennu/addasu sgript mewnforio fy hun. :rolio:

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:51 pm
gan nicdafis
Shmae?

Braf gweld bod bach o fyw yn yr hen gorff o hyd. Newydd ddod ar draws yr hen defyn 'ma o'r amser pan oedd maes-e mor fishi oedd rhaid ei gau fe i aelodau newydd dros dro. Anodd credu erbyn hyn.

Ydy Gwenno Glyn dal yn aelod? :wps:

Re: Helo a chroeso i ddiwrnod Maes-e #dyddmaese

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 11:06 pm
gan nicdafis
Tra mod i 'ma, oes plyg-in i gael sy'n gallu confyrto hen dagiau HTML i côdBB? Bob tro dw i'n darllen hen stwff yma dw i'n dod ar draws <b>pethau</b> fel <i>hyn</i> - pa mor anodd bydde fe i'w troi'n bethau fel hyn, tybed?