S'gen i'm syniad be ti'n ei ddweud yn yr edefyn (cerddoriaeth) uchod a dwi di anghofio fy nghyfrinair felly fedrai ddim mewngofnodi i ymateb. Dwi'n cymryd dy fod yn cymryd y piss ond ella ddim!!!
Ta waeth, mae'n rhy hwyr rwan, ond os doeddet ddim yn cymryd y piss diolch am ymateb beth bynnag.
Dwi newydd fod yn gwrando ar Radio D, oes gan unrhyw un syniad sut ydw i'n lawrlwytho Radio Amgen i wrando arno pan dwi ddim ar lein. Dwi'n gallu gwrando arno ar y pryd ond dwi ddim o reidrwydd isio gwrando tra dwi ar lein.