Tudalen 1 o 1

R Bennig

PostioPostiwyd: Maw 25 Chw 2003 10:42 pm
gan SbecsPeledriX
S'gen i'm syniad be ti'n ei ddweud yn yr edefyn (cerddoriaeth) uchod a dwi di anghofio fy nghyfrinair felly fedrai ddim mewngofnodi i ymateb. Dwi'n cymryd dy fod yn cymryd y piss ond ella ddim!!! :?:

Ta waeth, mae'n rhy hwyr rwan, ond os doeddet ddim yn cymryd y piss diolch am ymateb beth bynnag.

Dwi newydd fod yn gwrando ar Radio D, oes gan unrhyw un syniad sut ydw i'n lawrlwytho Radio Amgen i wrando arno pan dwi ddim ar lein. Dwi'n gallu gwrando arno ar y pryd ond dwi ddim o reidrwydd isio gwrando tra dwi ar lein.

PostioPostiwyd: Maw 25 Chw 2003 11:10 pm
gan nicdafis
Cei di gyfrinair newydd gan roi clec ar y ddolen "Dw i wedi anghofio fy nghyfrinair" ar y dudalen mewngofnodi.

PostioPostiwyd: Maw 25 Chw 2003 11:16 pm
gan nicdafis
Ac mae'n syniad da i gymryd unrhywbeth mae JR yn dweud gyda dyrniad o halen, yn enwedig os ydy e'n postio ar ôl 3 o'r gloch y bore.

Re: R Bennig

PostioPostiwyd: Mer 26 Chw 2003 12:15 am
gan dafydd
SbecsPeledriX a ddywedodd:Dwi newydd fod yn gwrando ar Radio D, oes gan unrhyw un syniad sut ydw i'n lawrlwytho Radio Amgen i wrando arno pan dwi ddim ar lein. Dwi'n gallu gwrando arno ar y pryd ond dwi ddim o reidrwydd isio gwrando tra dwi ar lein.


Mae pob sioe Radio Amgen i'w gael yn y cyfeiriad.

http://www.radioamgen.com/sioe/0xx/sioe0xx.rm

lle mae xx yn rhif rhwng 01 a 49

Os wyt ti'n postio'r cyfeiriad yna i dy borwr mae'n bosib fydd e jyst yn llwytho lawr a chwarae yn syth o fewn RealPlayer. Mae'n well defnyddio meddalwedd fel Getright er mwyn cael y ffeil, tu allan i'r porwr. Dwi ddim yn gwybod pa feddalwedd llwytho sydd yn well i fod yn onest ond mae yna ddewis fan hyn

PostioPostiwyd: Gwe 14 Maw 2003 11:18 pm
gan Rhys Llwyd
Ignorio JR ywr polisi gorau bob tro!

ma fe di bod yn dawel ers sbel nawr!