dwim yn cofio'n iawn sut neshi ffendio hwn. Geni frith gof o gofio rhywun wedi son wrth Gang Bangor, a rheini'n son ar y Radio. Neshi'm ymuno adeg hynny, ond neshi gofio chydig yn ol, a'i ffendio drwy Google mae'n siwr, wedyn ymuno.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Nol yn yr haf - ro'n i'n aelod o sawl negesfwrdd Saesneg eu hiaith, ac yn meddwl tybed oedd un drwy gyfrwng y Gymraeg? Chwiliais i, a rhywfodd (sai'n cofio sut - drwy msn neu Google) des i ar draws "Cymry Cwl" a dod fan hyn oddi yno.
Leusa a ddywedodd:Ga i ofyn i bawb be oedd y negesfwrdd [ai negesfwrdd oedd o?] 'Cymru Cwl'? Llawer yn son amdano, ond sgenaim clem!
Ie, <a href="http://www.cymrycwl.ipfox.com/">negesfwrdd</a> oedd e. Wnaethon ni ddechrau maes-e achos oedd problemau wedi codi ar y hen negesfwrdd - pobl yn defnyddio enwau ffug i sarhau pobl eraill, pob sgwrs yn troi i slanging match ayb.
Nac ydw, jyst ei enw o'r hen negesfwrdd. Jyst meddwl o'n i'n ei fod yn rhyfedd iddo sefydlu a rhedeg yr hen negesfwrdd heb ddod yma. A meddet ti "ni".
Ella i fod o wedi newid ffugenw, neu ella ei fod o wedi cael bywyd bellach