Tudalen 1 o 1

Cyfarchion

PostioPostiwyd: Iau 03 Ebr 2003 9:06 pm
gan wil_bylchau
Sutmai bawb.
Cyfarchion or Bylchau, pentref gerllaw mynydd Hiraethog yn Sir Ddinbech. Newydd ymuno ar Maes gan obeithio mwynhau fy hun.
Hwyl. Wil.

helo!

PostioPostiwyd: Iau 03 Ebr 2003 9:14 pm
gan Mihangel Macintosh
Shwd mae Wil!

Croeso i Maes E - Paid bod yn shei nawr!

PostioPostiwyd: Iau 03 Ebr 2003 9:55 pm
gan nicdafis
Croeso Wil. Sut clywaist ti am y lle 'te?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 2:39 pm
gan wil_bylchau
Sutmai Nic.
Mi glywais am y maes oddiar bwrddneges northwalesindex.co.uk. Doedd dim llawer o Gymraeg ar honno, ond hwyrach nad oes neb mor hen a fi ar hon ond caf weld.
Pob hwyl Wil.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 2:45 pm
gan Geraint
Wil

Os na lawer o gornchwiglod o gwmpas y Bylchau te?
Ma nhw mor fryn nawr
Anaml iawn dwi di gweld rhai.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 2:57 pm
gan wil_bylchau
Geraint.
Na does dim cornchwiglod iw clywed rawn ond mae yna ambell i Gylfinir a digon o frâin a rheini yn siarad saesneg i gyd.
Wil

PostioPostiwyd: Sad 05 Ebr 2003 4:10 pm
gan Siani
Croeso i'r Maes, Wil! Treulais i wythnos hyfryd iawn (er yn gweithio) yn Sir Dinbych yn ddiweddar. Gobeithio wnei di roi dy farn yma'n aml a mwynhau cyfrannu!