gan Gwen » Iau 17 Ebr 2003 9:07 am
S'mai Nic, ac - ymm - diolch (dwi'n meddwl) i'r boi arall.
Dyma'r Nic sy'n helpu Gwilym ab Ioan efo toriadau o'r wasg ia? Mae o wedi gofyn i fi fod yn gyfrifol am dderbyn y toriadau gan bobl a'u sganio nhw - felly ydw i'n fod i yrru'r toriadau atat ti neu at Gwilym?
Sori os dwi wedi cael y person anghywir!
A diolch am y croeso - ddyliwn i fod wedi ymuno ynghynt! Faint o negeseuon sydd raid i mi fod wedi eu hanfon i gael stopio bod yn Newyddian??