Leusa a ddywedodd:Idris - pwy wyt ti go iawn? Wedi sylwi ar dy arddull unigryw o lenyddol yn cyfrannu negeseuon - diddorol iawn, wyt ti'n byw'n lleol?!
Diolch am y croeso - doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i'n ffeindio cymuned ar y we, ac yn cael rhyw deimlad o berthyn drwy'r cyfrifiadur llwm yma.
Pwy ydwi go-iawn? Dyna uffarn o gwestiwn. Creadur digon di-nod, yn freuddwydiwr cyson ac yn awdur sdraeon hynod riwd am berthnasau rhywiol od. Dwi'n gaeth i sgwennu/teipio/mwydro/ffug athronyddu/hunandwyll/anfoesoldeb/diogi heb ysgogi.
Yn syml, dwi'n byw efo pobol syml a fyswn i byth yn eu diflasu nhw efo'r titl-tatl dwi'n anfon lawr y lein i'r maes - ffordd wych o gael gwared o rwystredigaeth heb orfod taro'r botel, gyda llaw.
Gesh i fonclust gin dad am feiddio sgwennu barddoniaeth budur oblaen, felly dwi'n swil.
Dwi hefyd yn byrfyrt, felly gwell peidio datgelu fy endid swyddogol rhag peryglu'r yrfa wleidyddol ddisglair...fel ddudish i, breuddwydiwr efo llond trol o gachu yn ei ffedog.