Croesi i Lygredd Moesol

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwen » Iau 12 Meh 2003 4:12 pm

Betia i di na chei di'm ateb, Meinir. Rhywbeth iddo fo neud dros hannar tymor oedd dwad i famma, dwi'n meddwl. :rolio:

Ond - i unrhyw un sydd isio gwybod (mae'n rhaid bod rhywun) - mi alla i dystio bod y stori ditenshyn ma'n wir. On i yn y car yn aros amdani hi am oes, yn barod i gychwyn adra. A phan aethon ni adra, mi gafodd hi ei 'groundio' wedyn - am gael ditenshyn! Gryduras.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 12 Meh 2003 4:30 pm

Meinir a ddywedodd:Pwy 'di'r hogyn 'ma o Rachub? Rhywun dwi'n ei nabod, ta ydw i'n rhy hen??


Creuadyr corachaidd o Rachub sy ddim yn cribo'i wallt yn aml iawn ydi o sy'n astudio'n ei flwyddyn olaf yn y Chweched.

Dowt bo ti'n abod fi! Pryd adewaist ti'r lle 'ma?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Meinir » Sul 15 Meh 2003 4:38 pm

Dydi'r ffaith nad wyt ti'n cribo dy wallt yn goleuo dim ar y sefyllfa - hen betha' bler welish i hogia Rachub erioed :winc:

Pryd nes i adael YDO, dwad? Ymm - 1999 dwi'n meddwl - ia dyna ni, haf 1999. Mi dreuliais i'r rhan fwya' o'r ddwy flynedd yn y chweched yn yfed coffi yn Fitzpatricks (yn trio edrych yn arti ac aeddfed!), felly mae'n amheus y byddai neb yn fy nghofio i chwaith!
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 15 Meh 2003 4:52 pm

Lwcus iawn arnat ti'n gadael bryd hynny.

Ers hynny mae'r Chweched wedi cael eu stwffio i fewn i'r hen stafelloedd newid 'na sydd ddim hyd yn oed yn sdyc i'r brif adeilad. "Y Bwthyn Cyfathrebu" yw'r enw swyddogol. "Y Cwt" well gen i ei alw. Dwi'm yn licio mynd 'na, mae'n hollol afiach, ac mae pawb wedi anghofio pwy ydw i erbyn hyn, dwi'n meddwl :P

O aye, ac mae'r Irfonaidd yn gadael y flwyddyn yma! O'r blydi diwedd!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Meinir » Sul 15 Meh 2003 5:07 pm

Hm - ia. Glywais i mai Alun Llwyd sy' 'di cael y swydd... Oeddet ti yno pan oedd o'n ddirprwy? Mi fydd o'n brifathro da iawn dwi'n siwr.

O leia' mae geno chi gwt... cefn y ffreutur oedd ar gael rhyw ddwy flynedd nol. Mi oedd fy nghyfoedion i yn trigo yn lle mae'r stafell athrawon bellach (nhw beintiodd y lle yn biws a ballu), ond 'don i'm yn licio nghyfoedion, a chanmil gwell gennyf siarad efo hen bobl mewn caffis, felly nes i'm trigo yno rhyw lawer.
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 15 Meh 2003 5:13 pm

Wn i'm pwy sy'n cael y swydd, ond dwi di clywed enw Mistar Llwyd. Oedd o'n dysgu Addysg Grefyddol i mi, gan boeri, pan oeddwn i'n Ffôm Wannar bach (wel, llai!).
Oedd fy mlwyddyn i yn y ffreutur am flwyddyn a hanner, mwy neu lai, hefyd. Er gaethon ni gic owt o fanno 'chydig o weithiau. Dwi'm yn mynd i 'nunman dwi jyst yn dod adra'n ganol gwersi a bombardio Maes E efo cachfalu (sut arall gen i dros 600 o negeseuon..!)

Ond dwi'n mynd i Gaerdydd tymor nesa i brifysgol, ond mi a i'n ôl i Ddyffryn Ogwen wedi hynny. Dim i'r ysgol ddo, fedra i'm disgwyl gadael y blydi ysgol 'ma, coelia di fi! :D
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nôl

Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron