gan nicdafis » Llun 19 Mai 2003 2:18 pm
Mae "lembo gwirion" wedi creu dau gyfrif heb fywiogi'r un ohonyn nhw. Mae'n debyg fod e/hi wedi defnyddio cyfeiriad ebost sy ddim yn bodoli. Os hoffai fe/hi gysylltu â fi (nic at maesymorfa dot com) bydda i'n dileu un o'r cyfrifau a newid yr ebost ar y llall i rywbeth sy'n gweithio.
Mae'n debyg bod gen ni eitha lot o "aelodau" ymysg yr 182 sy'n ymddangos ar y tudalen ffrynt sy ddim wedi bywiogi eu cyfrif. Dw i'n meddwl am ysgarthu'r rhestr aelodau i gael wared ar gyfrifau sy ddim wedi'u defnyddio - bydda i'n hala ebost ynglyn â hyn at bawb.