gmail

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 18 Tach 2005 10:23 am

oes! cant!

Gyrra NB efo dy gyfeiriad e-bost a mi gei di un.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Del » Gwe 18 Tach 2005 11:13 am

Dim ond gair i ddweud 'mod i wedi cael cyfeiriad Gmail. Diolch i T ap Seion.
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan gronw » Sad 30 Medi 2006 6:11 pm

dwi'n cofio rhywun yn sôn eu bod nhw'n disgwyl y byddai gmail ar gael yn gymraeg 'rywbryd'. dwi wedi dechre defnyddio gmail yn lled ddiweddar, ac mae na tua 40 o ieithoedd ar gael, ond dim cymraeg. fe wnes i glicio ar fotwm oedd yn dweud "volunteer to help translate gmail into your own language", ac mi wnes i, ond heb glywed dim byd yn ôl.

oes rhywun arall wedi gwirfoddoli i wneud yr un peth? ydyn nhw'n aros am hyn a hyn o wirfoddolwyr cyn mynd ymlaen a chyfieithu i iaith benodol, neu ai jyst araf yn sortio stwff maen nhw? os ydych chi'n defnyddio gmail, ac yn gallu cyfieithu, gwirfoddolwch chithau hefyd!

wrth gwrs, gallech chi gwestiynu'r ffaith mai gwirfoddolwyr sy'n gorfod cyfieithu pethe i un o gwmniau cyfoethoca'r byd, ond dadl arall yw honno! dwi jyst ishe gallu defnyddio gmail yn gymraeg...
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 30 Medi 2006 10:44 pm

Licen i gael cyfeiriad e-bost newydd ar wahan i fy un hotmail (dyw'r 2001 taith y Llewod yn hen hen dyddie 'ma - keith_wood_is_god@ hotmail.com? twat), a licen i gal un sy'n llai dwp a ny. Chwilio am gwahoddiade dw i, os unrhywun da un sbâr?

Os da chi gyfrif MySpace, fe gei di dy doti mewn i fy rhestr Top Friends. :winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan docito » Sad 30 Medi 2006 11:16 pm

os na rhagor o wahoddiade i'r parti
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan nicdafis » Sul 01 Hyd 2006 8:54 am

gronw a ddywedodd:oes rhywun arall wedi gwirfoddoli i wneud yr un peth?


Oes.

Y Famp a ddywedodd:Chwilio am gwahoddiade dw i, os unrhywun da un sbâr?


Ar ei ffordd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sul 01 Hyd 2006 1:54 pm

Sâff. J'olch yn fawr Nic! :D
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan dafydd » Llun 02 Hyd 2006 9:52 am

gronw a ddywedodd:oes rhywun arall wedi gwirfoddoli i wneud yr un peth? ydyn nhw'n aros am hyn a hyn o wirfoddolwyr cyn mynd ymlaen a chyfieithu i iaith benodol, neu ai jyst araf yn sortio stwff maen nhw?

Mae'r gwaith wedi ei wneud - dim ond fod angen i bobl haslo Google i gynnwys y peth sydd angen gwneud. Tro dwetha wnes i, roedden nhw'n dweud nad oedd hi'n bosib datgelu gwybodaeth 'commercially sensitive' :o
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan gronw » Llun 02 Hyd 2006 12:37 pm

dafydd a ddywedodd:Mae'r gwaith wedi ei wneud - dim ond fod angen i bobl haslo Google i gynnwys y peth sydd angen gwneud.

ok, diolch dafydd. sut mae cysylltu â gmail/google? falle mai fi sy'n thic ond dyw hi ddim yn amlwg iawn sut mae cysylltu â nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan dafydd » Llun 02 Hyd 2006 12:49 pm

gronw a ddywedodd:osut mae cysylltu â gmail/google? falle mai fi sy'n thic ond dyw hi ddim yn amlwg iawn sut mae cysylltu â nhw.

Y peth gorau i wneud yw, yn Gmail, mynd i 'Help' yna 'Contact Us' ar waelod y dudalen. Yna dewis 'suggest a feature' - 'I have a better idea' a gofyn am fersiwn Cymraeg.

Y broblem fwya yw fod Gmail dal yn 'beta' ac er fod y rhaglen wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd, yr unig rai sydd wedi ei gwneud yn fyw hyd yn hyn yw'r rhai lle mae gan Google yr arbenigedd yn fewnol i wirio'r cyfieithiad.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai