gan gronw » Sad 30 Medi 2006 6:11 pm
dwi'n cofio rhywun yn sôn eu bod nhw'n disgwyl y byddai gmail ar gael yn gymraeg 'rywbryd'. dwi wedi dechre defnyddio gmail yn lled ddiweddar, ac mae na tua 40 o ieithoedd ar gael, ond dim cymraeg. fe wnes i glicio ar fotwm oedd yn dweud "volunteer to help translate gmail into your own language", ac mi wnes i, ond heb glywed dim byd yn ôl.
oes rhywun arall wedi gwirfoddoli i wneud yr un peth? ydyn nhw'n aros am hyn a hyn o wirfoddolwyr cyn mynd ymlaen a chyfieithu i iaith benodol, neu ai jyst araf yn sortio stwff maen nhw? os ydych chi'n defnyddio gmail, ac yn gallu cyfieithu, gwirfoddolwch chithau hefyd!
wrth gwrs, gallech chi gwestiynu'r ffaith mai gwirfoddolwyr sy'n gorfod cyfieithu pethe i un o gwmniau cyfoethoca'r byd, ond dadl arall yw honno! dwi jyst ishe gallu defnyddio gmail yn gymraeg...