gmail

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Leusa » Iau 30 Tach 2006 3:32 pm

unrhyw ypdet am y cymraeg?
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 30 Tach 2006 4:18 pm

Ditto Leusa.

HEFYD, nesh i glicio ar rwbath heddiw (yn gmail) oedd yn deud rwbath fel -

"oeddech chi'n gwybod fod posib i bobl yrru ebyst atoch chi gyda dotiau rhwng eich enwau hydynoed os nad oes dotiau yn eich cyfeiriad gwreiddiol (a vice versa)" 8)

Felly nesh i yrru ebost at y Dyn efo dot.rhwng.ei.dri.enw@gmail.com (ei gyfeiriad cywir) AC efo'i drienwynunstribynhir@gmail.com

Ond dim ond yr un 'gwreiddiol' gyrhaeddodd :?

Ai fi sydd wedi camddeall? (eto)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwwaters » Iau 30 Tach 2006 6:06 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Ditto Leusa.

HEFYD, nesh i glicio ar rwbath heddiw (yn gmail) oedd yn deud rwbath fel -

"oeddech chi'n gwybod fod posib i bobl yrru ebyst atoch chi gyda dotiau rhwng eich enwau hydynoed os nad oes dotiau yn eich cyfeiriad gwreiddiol (a vice versa)" 8)

Felly nesh i yrru ebost at y Dyn efo dot.rhwng.ei.dri.enw@gmail.com (ei gyfeiriad cywir) AC efo'i drienwynunstribynhir@gmail.com

Ond dim ond yr un 'gwreiddiol' gyrhaeddodd :?

Ai fi sydd wedi camddeall? (eto)


Dwi'n fwy pryderus am y ffaith "ebyst" fel term 'swyddogol' os yw google am ei ddefnyddio, nid dy neges brawf.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: gmail

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 08 Ebr 2008 1:48 pm

Wedi bod yn chwara efo gmail heddiw, a newydd ddod ar draws tudalen oedd yn honni fod 99% o gmail wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg yn barod. Mi glicish i ar y botwm oedd yn gofyn am fwy o help (i gyfieithu'r 1% sydd ar ôl, siwr gen i), a chael neges i ddweud fod y cyfieithiad Cymraeg wedi'i orffen!
Oes rhywun wedi llwyddo i WELD y cyfieithiad ar eu sgrin o gwbl, a'i ddefnyddio? Neu a'i fi sy'n bod yn dwp?
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: gmail

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 08 Ebr 2008 3:41 pm

Mae'r cyfieithiad Cymraeg wedi ei orffen o'r hyn rwy'n deall OND dyw Google ddim yn barod i ryddhau hwn ar gyfer defnydd cyffredin heb wneud cytundeb gyda rhyw gorff fydd yn addo parhau gyda'r gwaith, a gwneud hynny yn gyson ac yn gyflym. Cefais i beth lwc dechrau'r flwyddyn mewn cael ymateb i nifer o negeseuon,ahyd yn oed cael rhywun o Google yn Nulyn yn ffonio i drafod y posibiliad, ond ma nhw'n gwrthod ateb nawr. :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: gmail

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 08 Ebr 2008 4:02 pm

Dyle Bwrdd yr Iaith ariannu hyn.

System ebost sy'n cael ei ddefnyddio gan gannoedd o Gymry Cymraeg, gyda chyfieithiad parod, a dim ond angen contract bach i ddiweddaru?

Sa rywun wedi cysylltu efo nhw i ofyn?

Faswn i wrth y modd yn cael gmail yn Gymraeg.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: gmail

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 01 Mai 2008 8:57 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Dyle Bwrdd yr Iaith ariannu hyn.

System ebost sy'n cael ei ddefnyddio gan gannoedd o Gymry Cymraeg, gyda chyfieithiad parod, a dim ond angen contract bach i ddiweddaru?

Sa rywun wedi cysylltu efo nhw i ofyn?

Faswn i wrth y modd yn cael gmail yn Gymraeg.


Neu beth am undeb dechnoleg Canolfan Bedwyr, Bangor... neu Mercator, Aberystwyth?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: gmail

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 01 Mai 2008 8:58 am

Fi wedi bod mewn cysylltiad gyda Gmail,ac wedi danfon y manylion ymlaen at BYI. Cawn weld osoes modd cydweithio...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: gmail

Postiogan Llefenni » Iau 01 Mai 2008 11:25 am

Ydi'r Linc yma rhywfaint o help?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai