Roeddwn i'n meddwl mae rhywbeth mwy
anffurfiol oedd o am fod am y tro cyntaf. Mae'n bach yn hwyr yn y dydd digwyl rhywun i roi rhywbeth at ei gilydd yntydi?
Byddai cael rhywun fel Suw yno'n syniad da beth bynnag gan ei bod hi'n hen law (heb swnio'n cheeky) ar bethau fel blog-gwrdd. Mae cyfeiriad e-bost ar ei blog.
Pethau hoffwn i eu trafod yw
Defnydd
-
hwyl (y peth pwysicaf) (blogio, Flickr)
-
cymdeithasol: hyrwyddo a (cheisio
) trefnu digwyddiadau (Curiad, Upcoming)
-
busnes dros y wê (os modd gwneud y fath beth yn Gymraeg??)
-
gwleidyddiaeth (They all Speak English - ble ni'n mynd gyda hwn?, amddiffyn y Gymraeg, ymosod a'r flogiau hiliol/rhagfarnllyd neu eu hanwybyddu
Technoleg
Tagio: Technorati, deli.cio.us, Tagzania etc
Côd: CSS / HTML, newid edrychiad a iaith patrymlun
Cyfieithu gwefannau: OpenOffice, Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg, Agored, (mae sawl aelod South Wales Linux User's Group yn siarad Cymraeg ac o Ardal Abertawe), PledgeBank, Tagzania, Gmail, phpBB
Ffrwd: llawer eto ddim yn siwr beth ydi o
Pa bethau allem weithio ar y cyd arnynt, beth sy'n flaenoriaethau gan bobl?
Oes digon yn fanna i wneud i neb fod eisiau dod yn agos atai mewn blog-gwrdd/gig rhag ofn i fi
go off on one?
Be fyddai eraill yn hoffi trafod?