Tudalen 1 o 5

Blog-gwrdd (o ryw fath), Eisteddfod 2006

PostioPostiwyd: Maw 16 Mai 2006 2:10 pm
gan Rhys
A. - Blogwyr y rhithfro i gwrdd yn ystod wythnos yr eisteddfod i falu cach am flogio (heb deimlo fel outcast cymdeithas wrth i eraill edrych arnoch mewn dirmyg). Min n

PostioPostiwyd: Maw 16 Mai 2006 2:23 pm
gan Wierdo
Mae'r ddau yn syniad da. Dwi heb bleidleisio oherwydd nad ydwi wirioneddol yn poeni pa run. Ar un llaw, mae opsiwn A yn llai ffurfiol ac yn fwy cyfforddus ac ati i bawb gael siarad ymysg ei gilydd a.y.y.b. Ond ar y llaw arall gall opsiwn B ledaenu'r gair am flogio cymraeg a chael fwy o bobl mewn i ddarllen a creu blogiau newydd.

A fuasai na bobl yn mynychu cyfarfod ar flogio petai nhw ddim yn gwbybod dim amdano?

PostioPostiwyd: Maw 16 Mai 2006 2:27 pm
gan Llefenni
Be am gael y ddau?!
Dwni'm os ga'i weithio yn y sdeddfod 'leni 'ddo, so falle fyddai'm na :x

Bydde lledaenu'r gair am fliogio'n syniad da iawn - dwni'm faint o'm ffrindie dwidi gorod esbonio bedi blogio iddyn nhw... mynd amdanni i efengylu wnawn i :D

PostioPostiwyd: Maw 16 Mai 2006 2:47 pm
gan Rhodri Nwdls
Cytuno am A - wnai helpu i drefnu os tisio. Be am yn hwyrach yn yr wythnos pan mae mwy o bobol yn debygol o fod yno.

Fydd hi'n job ffeindio pyb sydd ddim yn llawn o kids wedi bod yn meddwi yno drw'r dydd (ddim bo na ddim byd yn bod efo hynny, jest fydd hi'n annnodd siarad).

Ella fasa rwla ar y maes yn well? Oes na lefydd addas am ddim? Allwn ni heijackio pabell rywun a chael rhywun i roi archeb mewn ar far y maes ;-) ?

O ran syniad B, dwi'm yn siwr sut fasa mynd ati i gyflwyno rhywbeth fel'na (gan gofio fod llawer o we-fwnciod ddim yn hoffi golau dydd, heb s

PostioPostiwyd: Maw 16 Mai 2006 4:43 pm
gan Rhys
BYdde dod o hyd i dafarn digon tawel i gynnal sgwrs sydd o fewn 10 milltir i'r maes yn dipyn o gamp, felly mae cwrdd ar y maes ei hun yn swnio'n dda.

Cytuno mai diwedd wythnos yw'r gorau i gael cymaint o bobl yno

PostioPostiwyd: Maw 16 Mai 2006 5:38 pm
gan Wierdo
Ma hyn yn syniad da. Mai'n swnio'n well i gyfarfod yn anffurfiol i ddechrau cyn cychwyn dim byd fel cyfarfod mwy. Oleia wedyn mana fwy o bobl yn mynd i adnabod eu gilydd ac ati.

PostioPostiwyd: Maw 16 Mai 2006 11:14 pm
gan Rhodri Nwdls
Ai, cytuno o ran trefnu rwbath ffurfiol. Be am ddydd Gwener 5 o'r gloch (pryd ma nhw'n dechra gadael pobol mewn am ddim?).

Nai ffonio swyddfa'r sdeddfod fory i weld os oes posib cael to a chadeiria i ni rhag ofn bo hi'n bwrw.

Fasa'n werth gweld be fasa bobol isio gael allan o rwbath mwy ffurfiol.

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 10:19 pm
gan Rhys Llwyd
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Nai ffonio swyddfa'r sdeddfod fory i weld os oes posib cael to a chadeiria i ni rhag ofn bo hi'n bwrw.

Fasa'n werth gweld be fasa bobol isio gael allan o rwbath mwy ffurfiol.


Be am ym mhabell y 'We Gymraeg'? Hola Ned oherwydd dwin meddwl fod Agored/Mercator yn rhan-gyfrifol amdani.

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 11:07 pm
gan nicdafis
Mae'r ddau yn swnio'n dda i fi. Dw i'n hapus i ddefnyddio maes-e i hysbysebu'r peth, unwaith bod rhyw drefn wedi'i gytuno.

PostioPostiwyd: Iau 25 Mai 2006 7:08 am
gan Chwadan
Ew, am (ddau) syniad da :D