Mae rhywun wedi son wrthyf fod na gynlluniau i wneud fersiwn o "Gysgliad" (y rhaglen cywiro gramadeg a sillafu) ar gael i'r Apple Mac
Wnes i chwilio ar Google a ddes i ar draws eitem yn son am Bwrdd yr Iaith yn rhoi grant ar ei cyfar. (http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/downlo ... ID=86138.6)
Buasai Cysgair etc.. yn help enfawr yn fy ngwaith (mewn Argraff-dy sy'n gwneud lot fawr o stwff dwyieithog). Mae'n siwr mod i'n gofyn yn rhy gynnar ond - pryd bydd hi a gael? - oes na fanylion eto?
Oes eisiau help yn profi'r meddalwedd - dwi'n barod iawn i helpu.
Huw