Cysgliad i'r Apple Mac?

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cysgliad i'r Apple Mac?

Postiogan HuwJones » Mer 29 Awst 2007 1:01 pm

Mae rhywun wedi son wrthyf fod na gynlluniau i wneud fersiwn o "Gysgliad" (y rhaglen cywiro gramadeg a sillafu) ar gael i'r Apple Mac

Wnes i chwilio ar Google a ddes i ar draws eitem yn son am Bwrdd yr Iaith yn rhoi grant ar ei cyfar. (http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/downlo ... ID=86138.6)

Buasai Cysgair etc.. yn help enfawr yn fy ngwaith (mewn Argraff-dy sy'n gwneud lot fawr o stwff dwyieithog). Mae'n siwr mod i'n gofyn yn rhy gynnar ond - pryd bydd hi a gael? - oes na fanylion eto?

Oes eisiau help yn profi'r meddalwedd - dwi'n barod iawn i helpu.
Huw
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan Rhys » Mer 29 Awst 2007 4:27 pm

Mae'r Uned Technoleg Iaith, Canolfan Bedwyr wrthi'n gweithio arno rwan a bydd ar gael erbyn Nadolig (dwi'n meddwl). Cysyllta â nhw i gynnig dy wasanethau profi.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sbwriel » Mer 29 Awst 2007 7:13 pm

Be dylen nhw neud yw creu gwasanaeth arlein (falle subscription-based) a wedyn ehangu'r gwasanaeth ar gyfer pob platfform gan ddefnyddio technoleg tebyg i Adobe Air (sydd fel Flash Player ar gyfer desktops)
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Jac Glan-y-gors » Sad 01 Medi 2007 10:00 pm

Ydy'r cynlluniau yn cynnwys fersiwn Linux hefyd? Byddai hynny'n dda gan nad yw gwirydd sillafu Cymraeg OpenOffice yn gweithio ar y fersiwn Linux
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron