Tudalen 1 o 3

Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 3:50 pm
gan Hedd Gwynfor
Diolch i HuwJones am ei help:

Mae'n hawdd i newid iaith dy PC i Gymraeg
Mater bach yw lawrlwytho atodiad bach sy'n newid y rhaglenni PC mwya poblogaidd i Gymraeg - neu'n ddwyieithog.
Cofia hefyd fod dy gyfrifiadur yn gallu gwneud ysgrifennu Cymraeg yn llawer haws gyda chymorth cywiro sillafu a gramadeg - gret i ddysgwyr a phawb arall

Windows PC Llwytho i lawr y pecyn iaith AM DDIM
Windows XP, Vista a 7 yn Gymraeg.
XP - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
VISTA - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
Windows 7 - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy (cyfarwyddiadau mewn Saesneg ar sut i osod ar gael ar wefan Microsoft)

Canolfan Rheoli Iaith Windows PC Llwytho i lawr y pecyn AM DDIM
Cynnig dewis iaith i ddefnyddwyr cyfrifiaduron mewn cartrefi a gweithleoedd dwyieithog. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith rhyngwyneb Windows
XP - http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyho ... u/4993.exe
Vista - http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyho ... u/5232.exe
Gwybodaeth ar wefan Bwrdd yr Iaith - http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyho ... egoryid=35

Microsoft Office PC Llwytho i lawr y pecyn iaith AM DDIM
Pecyn iaith sy'n newid y dewisiadau ar y sgrin i Gymraeg.
Office 2003 - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
Office 2007 - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy

Office XP Welsh Proofing Tools Add-in PC Llwytho i lawr AM DDIM
Wrth ysgrifennu Saesneg yn Microsoft Word mae’r mwyafrif ohonom yn gwneud defnydd mawr o’r ‘sgwigls coch’ sy’n amlygu unrhyw eiriau sy’n debygol o fod wedi’u camsillafu. Mae'r nodwedd hon hefyd ar gael ar gyfer y Gymraeg. Mae’n gweithio os ydych chi wedi gosod y rhyngwyneb Cymraeg neu’n dal i ddefnyddio’r rhyngwyneb Saesneg.
Office XP - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy

OpenOffice PC Llwytho i lawr AM DDIM
Rhaglen poblogaidd yn debyg iawn i Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint etc..).
Fersiwn Gymraeg yn cynnwys gwirydd sillafu Cymraeg, Mae fersiwn ddwyieithog hefyd ar gael, gyda botymau i newid iaith y dewisiadau a'r cywiro sillafu o Cymraeg i Saesneg a nôl.
OpenOffice Cymraeg - http://cy.openoffice.org/
OpenOffice Dwyieithog - http://www.meddal.com/openoffice2dwyieithog.htm

NeoOffice MAC Llwytho i lawr AM DDIM
OpenOffice ar gyfer y Mac. Y cyfan yn Gymraeg ac mae modd llwytho geiriadur i gywiro sillafu Cymraeg
Manylion llawn ar wefan Meddal - http://www.meddal.com/neooffice.htm

Firefox PC a Mac Llwytho i lawr AM DDIM
Rhaglen chwilio'r we yn debyg i Internet Explorer. Mae dros 10 miliwn o bobl dros y byd wedi llwytho i lawr Firefiox - sydd ar gael mewn dwsinau o ieithoedd. Dilyn y cyngor ar wefan Meddal http://cy.www.mozilla.com/cy/

Thunderbird PC a Mac Llwytho i lawr AM DDIM
Rhaglen Ebosto yn debyg i Outlook etc.. Geiriadur Cymraeg ar gael i gywiro sillafu. Dilyn y cyngor ar http://www.meddal.com/thunderbird.htm

Cysgliad/Cysill PC CD ar werth yn siopau llyfrau Cymraeg PC: Tua £50 - MAC: Am Ddim - ARLEIN: Am ddim
Cywirio Sillafu a Gramadeg. Yn gweithio gyda Windows, Word, Open Office, Word Perfect etc.
Manylion pellach ar http://www.e-gymraeg.org/cysgliad/
Fersiwn rhad ac am ddim ar gyfer y Mac - http://e-gymraeg.org/cysgliadmac/
Fersiwn rhad ac am ddim Arlein - http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/

To Bach PC Llwytho i lawr AM DDIM
Mae To Bach yn rhaglen sy'n hwyluso gosod acenion ar nodau ar gyfer y Gymraeg. Drwy ddefnyddio bysell Alt Gr i’r dde o’r bysellfwrdd mae odd gosod to bach ar ben yr ŵ ar ben â ac yn y blaen. Mae hefyd yn gosod acenion i’r dde ac i’r chwith á é è ac ati a dau ddot ï. - http://www.draig.co.uk/draig/English/mu ... fault.aspx (Gwefan dim ond ar gael yn Saesneg yn anffodus)

- - - - - - - - - - - - -

Am fanylion o bob dim sydd ar gael ac am gyngor: http://www.meddal.com/

Nodwch unrhyw feddalwedd Cymraeg eraill yma!

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 10:58 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae peth rhaglenni Cymraeg ychwanegol mwy arbenigol ar gael yma:

http://www.hebffinia.com/meddalwedd/

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 12 Mai 2008 11:18 am
gan Cwlcymro
Ma hwn yn raglen syml sydd o lot o help

http://www.draig.co.uk/products/tobach/default.aspx

Mae o yn galluogi chi gal Tô bach wrth bwyso Alt Gr a'r llythyren da chi eisiau - lot haws na cofio'r holl rifa na

âêîôûŵŷ - wehei!

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 12 Mai 2008 1:13 pm
gan sanddef
Mae gen i Google Cymraeg eisoes, ond yn bersonol dw'i'n defnyddio Gwgl fel tudalen gartref

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 12:15 pm
gan LLewMawr
mae Windows XP a Vista yn gweithio yn dda yn gymraeg. mae'r porwr wê yn gweithio yn gymraeg ac hefyd mae Office 2007 yn gymraeg hefyd!!

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Sad 19 Gor 2008 11:38 am
gan Hedd Gwynfor
Wedi creu Grwp Facebook i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg ar eu cyfrifiadur(on) - Cymraeg ar y Cyfrifiadur

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 15 Medi 2008 4:50 pm
gan yavannadil
A pheidiwch ag anghofio Linux, er engraifft Ubuntu - am ddim, ac yng Ngymraeg!

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Gwe 19 Medi 2008 9:48 am
gan Hedd Gwynfor
Rhai o'r dolenni uchod yn hen. Dyma'r rhai diweddaraf sydd gyda fi ar dudalen y Grwp Facebook Cymraeg ar y Cyfrifiadur:

**Rhyngwyneb Cymraeg Windows**

Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg Windows® XP:
http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy

Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows ® Vista:
http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy

**Microsoft Office Cymraeg**

Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg Office 2003:
http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy

Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg Office 2007:
http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy

**Canolfan Rheoli Iaith**
(Cynnig dewis iaith i ddefnyddwyr cyfrifiaduron mewn cartrefi a gweithleoedd dwyieithog. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith rhyngwyneb Windows)

Canolfan Rheoli Iaith Windows XP:
http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyho ... u/4989.exe

Canolfan Rheoli Iaith Windows Vista:
http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyho ... u/5230.exe

**OpenOffice.org Cymraeg**
(meddalwedd rhad ac am ddim, yn debyg iawn i Microsoft Office - Word, Excel, PowerPoint etc):
http://cy.openoffice.org/

**NeoOffice Cymraeg** (OpenOffice ar gyfer y Mac):
NeOffice:
http://www.neooffice.org/neojava/en/index.php
Pecyn Iaith gymraeg NeoOffice:
http://www.neooffice.org/neojava/en/lan ... wnload.php

**To-Bach**
(Rhaglen sy'n hwyluso gosod To Bach ar lythrennau trwy bwyso Alt Gr a llythyren e.e. Alt Gr+a = â.
http://www.draig.co.uk/products/tobach/ ... px?lang=cy

**Firefox Cymraeg PC a Mac**
(Rhaglen pori'r we poblogaidd tebyg i Internet Explorer, ond gwell!)

1, Gosod Firefox yn Saesneg:
http://www.mozilla.com/en-US/
2, Gosod ‘Quick Locale Switcher’ i allu defnyddio’r Gymraeg ar Firefox:
https://addons.mozilla.org/en-US/firefox/addon/1333
3, Ac wedyn gosod Pecyn iaith y Gymraeg:
https://addons.mozilla.org/en-US/firefox/addon/4444
Mae hefyd modd ychwanegu Geiriadur Cymraeg i Firefox:
https://addons.mozilla.org/en-US/firefox/addon/3737
Cyfarwyddiadau llawn yma:
http://meddal.com/firefox.htm

**Thunderbird Cymraeg PC a Mac**
(Rhaglen e-bost a grwpiau newyddion yw Thunderbird ac yn debyg i Outlook Express.)

1, Gosod Thunderbird yn Saesneg:
http://www.mozilla.com/en-US/thunderbird/
2, Lawrlwytho Pecyn Iaith Gymraeg a’i osod trwy fynd at ‘Tools’ > ‘Add-ons’ ‘Install’ ac yna dewis ffeil y pecyn iaith. Ailgychwyn a bydd Thunderbird yn Gymraeg:
http://www.gwelywiwr.org/thunderbird/we ... 0.0-tb.xpi
Mae modd gosod Gwirydd Sillafu Cymraeg hefyd. Manylion llawn ar waelod y dudalen yma:
http://meddal.com/thunderbird.htm

**Mwy o Raglenni Cymraeg**
Yr uchod yw’r rhai sy’n cael eu defnyddio yn fwyaf aml o ddydd i ddydd, ond mae lot mwy ar gael hefyd trwy fynd at: http://meddal.com/

Mae lot o raglenni eraill wrthi’n cael eu cyfieithu gan wirfoddolwyr ar hyn o bryd, a bydd y manylion yn cael eu postio yma pan fyddant yn barod! 8-)

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Iau 12 Maw 2009 3:31 pm
gan robertsben
Un Broblem - Gweithio yn T.G yr urdd a wedi dwad ar draws problem gyda Sophos.
Os fyddwch yn newid Dewisiadau Rhyngbarthol (Regional Options) yn y panel rheoli i gymraeg a'r advanced options i gymraeg neith Sophos Anti virus ddim gweithio.
Ond wedi deud digwydd codi maer mater yma, gan ei fod yn gweithio or blaen.

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Iau 30 Gor 2009 9:48 am
gan Leusa
Ynglyn a to bach - [sylwer nad oes to bach ar ynglyn nac a] !!

Y broblem ydi, weithiau mae rhaglen To Bach Draig Technology yn gweithio'n berffaith. Ar adegau eraill, dydio ddim.
Tybed a wyr rhywun pam?

áéíóú ond dim blwmin to bach.