Tudalen 2 o 3

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Iau 03 Medi 2009 9:50 am
gan Leusa
Helo -plis plis all rhywun helpu?
Dydi meddalwedd to bach ddim yn gweithio bob tro, a rhaid ail-gychwyn y cyfrifiadur i'w gael i weithio - tybed pam? oes modd i'w gael i weithio heb fynd drwy'r rigamarol yma?

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Iau 01 Hyd 2009 12:49 pm
gan Dewin y gorllewin
Wedi cael cyfrifiadur gyda Vista ond methu rhoi'r rhyngwyneb CYmraeg arni, er bod y rhyngwyneb Cymraeg yn gweithio'n iawn ar rhaglenni Office 2007. Wedi darganfod y rheswm - Vista 64-bit yw'r cyfrifiadur, ac mae'r pecyn Cymraeg ond yn gweithio ar Vista 32-bit (h'apparently). Os ffordd o ddod rownd hyn, neu a fydd yn rhaid aros i Microsoft ddiweddaru'r pecyn? Os hynny, a oes rhywun yn gwybod pryd mai hyn yn debygol?

Diolch

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Gwe 06 Awst 2010 5:06 pm
gan Hedd Gwynfor
Ma gwefan meddal wedi cael 'makeover' ac mae'n edrych yn wych, ac yn llawer haws i'w ddefnyddio. Ddim yn siŵr ers pryd mae'r wefan wedi bod ar ei newydd wedd, ond ewch draw i gael golwg - http://www.meddal.com/meddal/

Mae'n drist bod y mwyafrif llethol o Gymry Cymraeg dal yn defnyddio meddalwedd Saesneg ar eu cyfrifiaduron, er bod stwff cystal ar gael yn Gymraeg, ac mewn sawl achos dim ond lawrlwytho a gosod pecyn iaith sydd angen gwneud. Mae'n rhywdd! Ewch ati heddi, a cofiwch Gymreigio pob cyfrifiadur chi'n dod i gyswllt a nhw gartref, yn yr ysgol, gwaith ayb 8)

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Sad 07 Awst 2010 8:48 am
gan Azariah
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ma gwefan meddal wedi cael 'makeover' ac mae'n edrych yn wych, ac yn llawer haws i'w ddefnyddio. Ddim yn siŵr ers pryd mae'r wefan wedi bod ar ei newydd wedd, ond ewch draw i gael golwg - http://www.meddal.com/meddal/



Archifau ‘ Gwirio Sillafu a Gramadeg ’
Fatal error : Call to undefined function
page 2 cat _output () in /homepages /19/
d 105613343 /htdocs / meddal /wp - content /
themes/ news - magazine- theme - 640. 1 .6 .4 /
news- magazine - theme - 640 / archive. php on
line 18

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 09 Awst 2010 8:08 am
gan Duw
Dolen yn gweithio'n iawn I mi

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 09 Awst 2010 8:39 am
gan Azariah
Duw a ddywedodd:Dolen yn gweithio'n iawn I mi

Doedd dim un o'r dolenni ar y chwith yn gweithio i fi ond efallai ei fod yn dibynnu ar y porwr.

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Llun 09 Awst 2010 8:41 am
gan Dafad∙Ddall
Firefox sydd gen i, a does dim un o'r "Categoriau" yn gweithio.

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Mer 11 Awst 2010 10:01 pm
gan Azariah
Dafad∙Ddall a ddywedodd:Firefox sydd gen i, a does dim un o'r "Categoriau" yn gweithio.

Wedi trio Firefox 3.6.4 ac IE 8 ar Vista, Opera a phorwr arall ar Android gyda'r un canlyniad.

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2010 11:01 am
gan Gruff Goch
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ma gwefan meddal wedi cael 'makeover' ac mae'n edrych yn wych, ac yn llawer haws i'w ddefnyddio. Ddim yn siŵr ers pryd mae'r wefan wedi bod ar ei newydd wedd, ond ewch draw i gael golwg - http://www.meddal.com/meddal/


Diolch am y ganmoliaeth Hedd - gafodd o'i ail-lansio yn Hacio'r Iaith ddiwedd mis Ionawr. Heb gael cyfle i wneud fawr efo'r wefan yn ddiweddar yn anffodus oherwydd 'bywyd go-iawn', felly dyna sy'n gyfrifol am erchyllderau fel:

Azariah a ddywedodd:Archifau ‘ Gwirio Sillafu a Gramadeg ’
Fatal error : Call to undefined function
page 2 cat _output () in /homepages /19/
d 105613343 /htdocs / meddal /wp - content /
themes/ news - magazine- theme - 640. 1 .6 .4 /
news- magazine - theme - 640 / archive. php on
line 18


Diolch am sylwi ar hwnna Azariah. Fyddai modd i chi anfon neges drwy'r ffurflen gysylltu ar wefan Meddal os dowch chi ar draws unrhyw beth tebyg yn y dyfodol (peidiwch a bod ofn!)? Dim ond digwydd sylwi ar y neges hon wnes i. Diolch! :)

Re: Meddalwedd Cymraeg i'th Gyfrifiadur

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2010 11:22 am
gan Azariah
Gruff Goch a ddywedodd:Diolch am sylwi ar hwnna Azariah. Fyddai modd i chi anfon neges drwy'r ffurflen gysylltu ar wefan Meddal os dowch chi ar draws unrhyw beth tebyg yn y dyfodol (peidiwch a bod ofn!)? Dim ond digwydd sylwi ar y neges hon wnes i. Diolch! :)


Es i at y ffurflen ar y pryd ond roedd yn mynnu enw a chyfeiriad e-bost er mwyn cyflwyno neges felly penderfynais i beidio.
Rwy'n gallu bod yn flin ac ystyfnig fel 'na ar adegau :)