Sesh.tv

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Sesh

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 19 Chw 2008 6:27 pm

bartiddu a ddywedodd:Wedi bod yn clicio ar ambell i fidio sesh, ARFERION CARU’R CYMRY... mwynheues i hwn! :D

Ie, ffilm wych gan Catrin, ond ar http://www.ffresh.com ma hwnna, ac nid http://www.sesh.tv ;-)

Ond gobeithio y bydd o ar Sesh cyn bo hir...

@Manon

Be am gyfrannu hefyd Manon? Sa'n dda cael maeswyr i wneud rhyw damad "fideo nation" -aidd o'u hunain ar ei gyfer o. Be ti'n feddwl?

Ac os nad oes gen ti gamera, yna gallwn ni drio helpu ti ddod o hyd i un. Dyna fydd rhan o fwriad Sesh hefyd - trio helpu pobol i wneud eu ffilmiau a rhaglenni eu hunain drwy ddefnyddio adnoddau sy'n bodoli'n barod. Mae na lwythi o lefydd rwan sydd efo camerau, llefydd golygu ac ati, jest fod neb yn eu defnyddio.

Ma gynnon ni lwyth o storis difyr i'w dweud, a sdim angen aros nes bod criw teledu yn dod a'ch ffilmio chi - dwedwch nhw eich hunain, heb y ffiltyr! Pam lai cael newyddion lleol sydd ddim yn gynnyrch y BBC? Pam lai cael grwpiau pwysau lleol (neu wleidyddion!) yn rhoi sylw ehangach i'w hymgyrchoedd trwy wneud fideos ohonynt?

Ma gwefannau fel hyn yn declynnau pwysig, ac mae'n bosib hawlio nôl y cyfryngau i ryw raddau trwyddyn nhw. Gobeithio bydd Sesh yn gallu cyfrannu tuag at hyn...yn ogystal a bod yn lle i wylio pobol yn disgyn drosodd :)
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Sesh

Postiogan Beti » Gwe 29 Chw 2008 10:41 am

Lot o bethau difyr ar hwn. Mae isho pobol roi mwy i fyny rwan...ac mae'n werth i chi gyd wylio Gari Gwyllt! 8)
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Sesh

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 18 Maw 2008 10:03 pm

Pryd fydd y wefan yn agor i bawb felly?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sesh

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 18 Maw 2008 10:17 pm

Dwi wedi buddsoddi mewn offer recordio fideo digidol heddiw gyda'r bwriad o ddatblygu cristnogaeth.com i fod yn rhywbeth tebyg i mars hill (ond ddim hanner cystal wrth gwrs gan mai cowboi ydw i!). Dwi wedi defnyddio blip.tv (lot neisach na youtube) i ddal y fideo cyntaf, a fydd sesh yn caniatau i mi ei ddefnyddio, i bob pwrpas, fel host fideo ac yna embedio'r fideo's ar fy ngwefannau i fel dwi'n defnyddio blip a youtube rwan?

Hefyd dan ba gategori y base chi'n ffeilio fideo's cristnogaeth.com ar sesh? 'Ffeithiol' ynteu 'Comedi'? 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Sesh

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 18 Maw 2008 10:51 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:a fydd sesh yn caniatau i mi ei ddefnyddio, i bob pwrpas, fel host fideo ac yna embedio'r fideo's ar fy ngwefannau i fel dwi'n defnyddio blip a youtube rwan?


Bydd, ond dyw hwn ddim yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r fersiwn beta o beth allai weld. Safon y fideos LOT yn well ar sesh na youtube hefyd 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sesh

Postiogan sbwriel » Mer 19 Maw 2008 12:04 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pryd fydd y wefan yn agor i bawb felly?


Dal yn smwddo cincs allan ar hyd a led y gwefan ar hyn o bryd (ac yn ei wneud yn well), ond y gobaith yw cyn gynted a bo modd.

Os oes gan unrhyw sefydliad Cymraeg neu Chymreig diddordeb mewn defnyddio Sesh ar gyfer eu cynhyrchiadau ffilmaidd nhw, dwi'n siwr bydde Nwdls yn hoff o glywed ohonoch :)
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Re: Sesh

Postiogan sbwriel » Mer 19 Maw 2008 12:09 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:a fydd sesh yn caniatau i mi ei ddefnyddio, i bob pwrpas, fel host fideo ac yna embedio'r fideo's ar fy ngwefannau i fel dwi'n defnyddio blip a youtube rwan?

Wrth gwrs, gyda fod dy fod yn berchen ar yr holl hawliau, neu wedi cael caniatad i'r hawliau. Dim funny business ar Sesh (oni bai ei fod heiddi mynd i'r categori comedi!)
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Re: Sesh.tv

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 27 Gor 2009 10:07 pm

Beth yw'r diweddaraf ynglŷn a hwn bois? Dyw hi ddim yn ymddangos fod y parth yn weithredol mwyach http://www.sesh.tv :? Gobeithio mai rhywbeth dros dro yw hyn, achos odd lot od deunydd da iawn yn yr adran beta.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sesh.tv

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 28 Gor 2009 7:52 am

Yn anffodus, oherwydd cymhlethdod problemau hawlfraint, fydd Sesh.tv ddim ar-lein yn y dyfodol agos, ond da ni'n dal i weithio ar brojectau fydd yn ceisio cyflawni yr un amcanion sef annog a datblygu talent cynhyrchu newydd, ac yn gobeithio gallu datblygu hynny ymhellach. Dwisio diolch i'r cynhyrychwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cyfnod prawf, a dwi'n obeithiol y gallwn ni sicrhau bod yna gyfleodd newydd yn dod i gynhyrchwyr fideo ar-lein yn y flwyddyn i ddod.

Yn y cyfamser cofiwch am gynllun DVD Pictiwrs/Tu Chwith, lle bydd cyfle i gael eich ffilm ar DVD newydd wedi ei deithio ledled Cymru.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron