Dyma'r hyn sydd wedi dod ar gael yn ddiweddar:
OpenOffice.org 2.4
Mae'r fersiwn diweddaraf yma'n cynnwys gwelliannau i nifer o elfennau o OpenOffice.org i gryfhau'r berthynas gydag agor ffeiliau yn Access ac Excel yn fwy llwyddiannus. Cofiwch fod nifer cynyddol o Estyniadau ar gael ar gyfer ychwanegu offer newydd i'r pecyn.
Mae safle gwe http://www.cy.openoffice.org wedi cael diweddariad ac mae'r ffeiliau Cymraeg i gyd i'w cael yno.
Cysgliad Mac
Mae Canolfan Bedwyr yn ryddhau fersiwn o Cysgliad i'r Mac yn sgil nawdd gan Fwrdd yr Iaith. Mae'r pecyn rhad ac am ddim ar gael o safle gwe Cysgliad http://www.e-gymraeg.org
Cysgliad Windows
Diweddariad Newydd 17/03/08 Mae diweddariad newydd rhad ac am ddim o Cysgliad i'r PC wedi ei ryddhau dros y we. Mae'n cynnwys gwelliannau i lecsicon a rheolau gramadeg Cysill. Mae'r diweddariad hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r modd mae Cysgliad yn gweithio gyda Vista ac Office 2007. Mae'r diweddariad ar gael ar-lein drwy raglen Cysill.
Cysgliad a Google Maps
Mae manylion am hyn ar Murmur, blog Canolfan Bedwyr http://murmur.bangor.ac.uk/?p=65
Cyfieithiadau Wetwork
Mae Alan Davies, Wetwork wedi cysylltu i son am nifer o becynnau meddalwedd mae wedi eu cyfieithu gall fod o ddefnydd. Mae'r pecynnau iaith i gyd i'w cael ar safle gwe Alan ar safle Wetworkhttp://www.wetwork.org.uk/cyfieithiad/ . Mae'r rhaglenni yn cynnwys Spaw2, pecyn prosesydd WYSWIG ar-lein, tebyg ond gwell (ym marn Alan) na FCKEditor a TinyMCE. YAV, gwiriwr data ochr-gleient ffurflenni gwe a Podcast generator ar gyfer creu ffeiliau RSS, podlediadau a fideolediad.
Wordpress 2.2.3
Mae pecyn iaith diweddaraf Wordpress ar gael o safle Meddal.com.
Pethau sydd ar y gweill/ar fin ymddangos: Mandriva Linux 2008.1 a Firefox 3.