OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan sian » Llun 21 Ebr 2008 6:47 am

Dw i'n dal yn yr un sefyllfa â ti Hedd.
Heb dreio creu cyfrif newydd - ond mae hynny'n mynd i fod yn reit drafferthus beth bynnag.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 21 Ebr 2008 9:00 am

Yn hwyr neithiwr, wnes i drio creu cyfrif newydd, a mae yn gweithio'n iawn! h.y. mae Cysill yn gweithio'n gyflym, ac mae Cysgeir yn llwytho'n ddi-drafferth. 8)

Dwi wedi penderfynnu defnyddio'r cyfrif newydd felly yn lle yr hen gyfrif. Does dim problem wrth wneud hyn, gan fod dal modd defnyddio'r holl raglenni sydd wedi llwytho ar y cyfrifiadur, ac agor a golygu'r holl ddogfennau.

Yr unig broblem sydd ar ôl gyda fi felly ydy nad oes modd cyfuno/integreiddio Cysill gyda unrhyw raglen ar y Mac, fel sydd modd gwneud gyda Word ar Windows.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan sian » Maw 22 Ebr 2008 7:59 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi wedi penderfynnu defnyddio'r cyfrif newydd felly yn lle yr hen gyfrif. Does dim problem wrth wneud hyn, gan fod dal modd defnyddio'r holl raglenni sydd wedi llwytho ar y cyfrifiadur, ac agor a golygu'r holl ddogfennau.


Os ti'n creu cyfrif newydd, mae'n rhaid i ti osod Office a lawrlwytho Cysgliad eto, oes? Ydi Spotlight yn gallu ffeindio pethau yn yr hen gyfrif o'r cyfrif newydd?

Hefyd, hyd y gwela i, dydi Cysill i'r Mac ddim wedi dysgu anwybyddu talpiau o Saesneg, ydi? A does dim ffordd ychwanegu geiriau i'ch geiriadur personol - neu a ydw i wedi colli rhywbeth?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 22 Ebr 2008 9:05 am

sian a ddywedodd:Os ti'n creu cyfrif newydd, mae'n rhaid i ti osod Office a lawrlwytho Cysgliad eto, oes? Ydi Spotlight yn gallu ffeindio pethau yn yr hen gyfrif o'r cyfrif newydd?


Wel dim gyda fi. Roedd yr holl raglenni ar gael i'w defnyddio yn y 2 gyfrif, heb orfod ail-osod unrhyw raglen eto.

O ran dogfennau, fi'n cadw pob dim ar ddisg caled allanol, a roeddwn i'n gallu gweld hwn tra'n defnyddio'r 2 gyfrif.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan CraigHughes » Iau 01 Mai 2008 12:39 pm

Ces i lot o broblemau gyda Cysill a Cysgeir (a sawl raglen arall) ar fy MacBook newydd sbon. Es i â fe nôl i'r siop Apple yng Nghaerdydd, ac oedd y boi yno'n gwybod yn syth beth oedd y broblem - Mae byg yn Llewpard (Mac OS X 10.5.2).

Os dych chi'n dewis Cymraeg fel eich prif iaith (preferences, international) mae'n achosi rhaglenni i wrthod rhedeg. Y datrysiad oedd defnyddio English fel eich prif iaith a Chymraeg fel eich ail iaith. A voilà, dechreuodd Cysill a Cysgeir weithio! Mae siop Caerdydd wedi riportio'r problem i Apple a gobeithio bydd fix yn y fersiwn newydd o Llewpard.
CraigHughes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2008 12:19 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Griff-Waunfach » Iau 01 Mai 2008 2:54 pm

CraigHughes a ddywedodd:Ces i lot o broblemau gyda Cysill a Cysgeir (a sawl raglen arall) ar fy MacBook newydd sbon. Es i â fe nôl i'r siop Apple yng Nghaerdydd, ac oedd y boi yno'n gwybod yn syth beth oedd y broblem - Mae byg yn Llewpard (Mac OS X 10.5.2).

Os dych chi'n dewis Cymraeg fel eich prif iaith (preferences, international) mae'n achosi rhaglenni i wrthod rhedeg. Y datrysiad oedd defnyddio English fel eich prif iaith a Chymraeg fel eich ail iaith. A voilà, dechreuodd Cysill a Cysgeir weithio! Mae siop Caerdydd wedi riportio'r problem i Apple a gobeithio bydd fix yn y fersiwn newydd o Llewpard.



AAAAHHH Nes i sylwi bod e wedi gweithio ar ol ail osod popeth, ond nes i ddim meddwl mai'r iaith oedd wrth wraidd y broblem... BLYDI WELSHIES! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan HuwJones » Gwe 02 Mai 2008 10:59 am

Wnes i ffidlan cryn dipyn gyda'r dewisiadau iaith yn "Preferences" gyda "Keyboard" hefyd "International" ond heb ddim lwc. Mae gosodiadau y "locale" (iaith, math o côd sy'n cael ei defnddyddio ar y keyboard etc) yn gallu creu problemau weithiau ond dwi'n meddwl bod y problem gyda Cysglaid yn mwy na hynny. Mae o'n gweithio ar un beiriant allan o 6 yn unig yn ein gwaith. Rydan ni wedi rhoi'r gorau arni yn anffodus.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Robin » Sul 26 Gor 2009 9:26 pm

Mac G4 10.4.11
Wedi llwytho cysill lawr am y tro cynta heddi ac wedi ei gael i weitho yn weddol. Ffwdan copio a gludo ond yn falch i'w gael. Methiant ar y cychwyn oedd cael cysgeir i weitho nes fy mod yn mynd i'r ffwdan o greu defnyddiwr arall a defnyddio hwnnw. Nawr yn gweithio ond yn llusgog o araf, fel arfer pan yn teipio gair mewn (e.e cylchgrawn) fe fydden yn disgwyl gweld y rhestr o eiriau oddi tano yn newid i rai sy'n dechrau gyda c, wedyn cy, wedyn cyl a.y.b. ond dyw'r rhestr o eiriau ddim yn newid da fi. Peth arall sy'n brofoclyd yw cael gafael yn lluosog y gair. Byddem yn disgwyl medru clicio ar y gair i weld pethau fel llusog a chenedl.

Peth bynnag yn hapus o'r cyfle o ddefnyddio cysill ar y mac.

Yn defnyddio rhestr helaeth o feddalwedd:
apple works, neooffice, openoffice (weithiau) a pages

Robin
Robin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sul 26 Gor 2009 8:36 pm

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron