OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan HuwJones » Maw 01 Ebr 2008 2:15 pm

Bril !
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Ebr 2008 2:20 pm

Cefais i ateb tebyg hefyd gan Fwrdd yr Iaith. Gwych! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 01 Ebr 2008 2:40 pm

Dwi wedi anfon neges at Ganolfan Bedwyr yn holi ynghlyn ar posibilrwydd o gynnwys gwirydd sillafu oddi mewn i office for mac ei hun (fel gyda NeoOffice) oherwydd yr amhosibilrwydd o allforio traethodau llawn troednodiadau a fformatio arbennig i Cysill.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan sian » Maw 01 Ebr 2008 3:15 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi wedi anfon neges at Ganolfan Bedwyr yn holi ynghlyn ar posibilrwydd o gynnwys gwirydd sillafu oddi mewn i office for mac ei hun (fel gyda NeoOffice) oherwydd yr amhosibilrwydd o allforio traethodau llawn troednodiadau a fformatio arbennig i Cysill.


Ro'n i'n cymryd mai dyma sut mae hwn i fod i weithio - ru'n peth â Cysill ar gyfer PC - lle ti jest yn pwyso botwm ar y bar offer ac mae'n gwneud ei waith - gobeithio beth bynnag.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 01 Ebr 2008 3:25 pm

sian a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi wedi anfon neges at Ganolfan Bedwyr yn holi ynghlyn ar posibilrwydd o gynnwys gwirydd sillafu oddi mewn i office for mac ei hun (fel gyda NeoOffice) oherwydd yr amhosibilrwydd o allforio traethodau llawn troednodiadau a fformatio arbennig i Cysill.


Ro'n i'n cymryd mai dyma sut mae hwn i fod i weithio - ru'n peth â Cysill ar gyfer PC - lle ti jest yn pwyso botwm ar y bar offer ac mae'n gwneud ei waith - gobeithio beth bynnag.


Mae well da fi weld e'n gweithio drwy roi sgwigl coch dan eiriau sy'n anghywir a wedyn fedri di wirio wrth dy fod di'n mynd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan sian » Maw 01 Ebr 2008 3:51 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi wedi anfon neges at Ganolfan Bedwyr yn holi ynghlyn ar posibilrwydd o gynnwys gwirydd sillafu oddi mewn i office for mac ei hun (fel gyda NeoOffice) oherwydd yr amhosibilrwydd o allforio traethodau llawn troednodiadau a fformatio arbennig i Cysill.


Ro'n i'n cymryd mai dyma sut mae hwn i fod i weithio - ru'n peth â Cysill ar gyfer PC - lle ti jest yn pwyso botwm ar y bar offer ac mae'n gwneud ei waith - gobeithio beth bynnag.


Mae well da fi weld e'n gweithio drwy roi sgwigl coch dan eiriau sy'n anghywir a wedyn fedri di wirio wrth dy fod di'n mynd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Waen » Maw 01 Ebr 2008 11:49 pm

Dyma i chi 'hac' dros dro i cysill i gweithio (mac osx10.4 G4 ac uwch)
-http://rapidshare.com/files/104163820/Cysill.app.zip.html
ffeil zip 1.7MB
Mi ddylsa datrys y problem yma i Hedd a Sian o leiaf 8)
O ran Cysill union yr un broblem eto Sian. Dim ond y testun sydd yn ymddangos yn y blwch mae modd gweld, a does dim modd sgrolio lawr at weddill y testun, ac ar ôl i'r rhaglen gywiro'r testun sydd yn y golwg (mae yn goleuo rhain yn las gyda fi) dyw e ddim yn sgrolio lawr yn awtomatig at weddill y testun, felly dwi'n gweld beth yw'r awgrym, ond nid beth yw'r gair gwreiddiol!
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan UnedTechnolegauIaith » Mer 02 Ebr 2008 10:04 am

Diolch i bawb am yr adborth ynglŷn â Cysgliad i’r Mac. Rydym ni wir yn gwerthfawrogi eich adborth a'ch cefnogaeth i'r project.

Yn anffodus, oherwydd ein bod ni’n cynnig Cysgliad i’r Mac am ddim, allwn ni ddim cynnig cefnogaeth dechnegol yn achos problemau defnyddwyr unigol. Gweler blog yr Uned am fwy o fanylion.

Serch hynny, rydyn ni wedi gallu cywiro rhai gwallau cyffredinol sydd wedi dod i’r amlwg yn Cysill a Cysgeir ers diwedd y cyfnod Beta.

Mae fersiwn newydd Cysill wedi’i ryddhau sy’n eich galluogi i sgrolio i lawr a gweld gwallau mewn testunau sy’n rhy hir i’w dangos yn eu cyfanrwydd yn ffenestr Cysill. Yn ogystal â hynny, mae’r cofnodion dyblyg o Y Termiadur wedi cael eu tynnu o Cysgeir.

Dyma gyswllt i’r wefan lle mae’r fersiwn diweddaraf yn awr wedi’i gosod ar-lein.

Cafodd Cysill a Cysgeir eu datblygu ar beiriannau Mac yn rhedeg OS X 10.4 (sef Tiger)yn defnyddio Carbon, sydd i fod i alluogi i’r rhaglenni weithio gydag OS X 10.3 (sef Jaguar). Mae’n ymddangos erbyn hyn fod rhai defnyddwyr yn cael problemau gyda fersiynau sy’n hŷn na OS X 10.4. O ganlyniad bydden ni’n argymell eich bod yn rhedeg Cysill a Cysgeir ar y fersiwn diweddaraf o OS X 10.4 (sef OS X 10.4.11 ar hyn o bryd) neu ar OS X 10.5 (sef Leopard) os yw hi’n bosib. Rydym ni wedi newid y manylion ar wefan Cysgliad i’r Mac i adlewyrchu hyn.

Er hynny, ni allwn warantu na fydd y rhaglenni yn gwrthdaro gyda rhaglenni eraill sydd eisoes wedi’u gosod ar eich cyfrifiadur.


Rhai datrysiadau
Mae rhai defnyddwyr oedd yn cael problem cael y rhaglenni i weithio wedi llwyddo drwy ailosod OS X, ond dylech wneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun, gan wneud yn siŵr eich bod wedi gwneud copïau wrth-gefn o ffeiliau nad ydych chi’n barod i’w colli.

Mae’n debyg bod rhai defnyddwyr a oedd yn methu agor Cysgeir wedi llwyddo i gael Cysgeir i agor drwy greu cyfrif newydd ar eu Mac, ac agor Cysgeir tra’u bod wedi mewngofnodi yn y cyfrif hwnnw.



Byddwn ni'n dal i ddarllen cofnodion cyfranwyr Maes-E ynghylch Cysgliad i'r Mac - a'ch sylwadau ar gyfrifiadura'n Gymraeg yn gyffredinol o ran hynny. Mae' eich sylwadau yn werthfawr i ni.


Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
UnedTechnolegauIaith
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Maw 01 Ebr 2008 2:48 pm

ysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan HuwJones » Mer 02 Ebr 2008 2:00 pm

Diolch am hwnna. Wedi trio'r fersiwn newydd ond dal yn broblem ar beiriant 10.4.11.
Heb gael gyfle i drio'r cyngor am greu cyfrif newydd. Gobeithio bydd hynny'n help?

Dwi wedi cael cyfle i ddefnyddio Gysgliad ar un o'r peiriannau sy'n wedi'i lwytho yn iawn - ac mae o blydi gret! :D :D

Gyda llaw - mae na son am "Gysgliad' ar y blogfan "Multilingual Mac" http://m10lmac.blogspot.com/
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Waen » Mer 02 Ebr 2008 2:41 pm

mae creu cyfrif newydd yn gweithio ar 10.4.11 G4 dual, ond mae'n boen er fedri di newid defnyddwyr yn eithaf cyflym.
Golygwyd diwethaf gan Waen ar Mer 02 Ebr 2008 10:32 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron