OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Rhoslyn Prys » Gwe 28 Maw 2008 10:21 pm

Dyma'r hyn sydd wedi dod ar gael yn ddiweddar:

OpenOffice.org 2.4

Mae'r fersiwn diweddaraf yma'n cynnwys gwelliannau i nifer o elfennau o OpenOffice.org i gryfhau'r berthynas gydag agor ffeiliau yn Access ac Excel yn fwy llwyddiannus. Cofiwch fod nifer cynyddol o Estyniadau ar gael ar gyfer ychwanegu offer newydd i'r pecyn.

Mae safle gwe http://www.cy.openoffice.org wedi cael diweddariad ac mae'r ffeiliau Cymraeg i gyd i'w cael yno.

Cysgliad Mac

Mae Canolfan Bedwyr yn ryddhau fersiwn o Cysgliad i'r Mac yn sgil nawdd gan Fwrdd yr Iaith. Mae'r pecyn rhad ac am ddim ar gael o safle gwe Cysgliad http://www.e-gymraeg.org

Cysgliad Windows

Diweddariad Newydd 17/03/08 Mae diweddariad newydd rhad ac am ddim o Cysgliad i'r PC wedi ei ryddhau dros y we. Mae'n cynnwys gwelliannau i lecsicon a rheolau gramadeg Cysill. Mae'r diweddariad hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r modd mae Cysgliad yn gweithio gyda Vista ac Office 2007. Mae'r diweddariad ar gael ar-lein drwy raglen Cysill.

Cysgliad a Google Maps

Mae manylion am hyn ar Murmur, blog Canolfan Bedwyr http://murmur.bangor.ac.uk/?p=65

Cyfieithiadau Wetwork

Mae Alan Davies, Wetwork wedi cysylltu i son am nifer o becynnau meddalwedd mae wedi eu cyfieithu gall fod o ddefnydd. Mae'r pecynnau iaith i gyd i'w cael ar safle gwe Alan ar safle Wetworkhttp://www.wetwork.org.uk/cyfieithiad/ . Mae'r rhaglenni yn cynnwys Spaw2, pecyn prosesydd WYSWIG ar-lein, tebyg ond gwell (ym marn Alan) na FCKEditor a TinyMCE. YAV, gwiriwr data ochr-gleient ffurflenni gwe a Podcast generator ar gyfer creu ffeiliau RSS, podlediadau a fideolediad.

Wordpress 2.2.3

Mae pecyn iaith diweddaraf Wordpress ar gael o safle Meddal.com.

Pethau sydd ar y gweill/ar fin ymddangos: Mandriva Linux 2008.1 a Firefox 3.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Pendra Mwnagl » Gwe 28 Maw 2008 10:37 pm

Diolch yn fawr iawn am y Cysgliad i'r Mac. Gwych! (am ddim hefyd!)
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 28 Maw 2008 11:07 pm

Oes rhywun arall yn gweld fersiwn NeoOffice o Power Point yn slugish iawn i'r pwynt na ellir ei ddefnyddio oherwydd ei fod mor araf ac anwadal?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Pendra Mwnagl » Sad 29 Maw 2008 12:59 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Oes rhywun arall yn gweld fersiwn NeoOffice o Power Point yn slugish iawn i'r pwynt na ellir ei ddefnyddio oherwydd ei fod mor araf ac anwadal?


Rhaid i mi gyfadde bod fi'n ffeindio NeoOffice i gyd braidd yn anwadal. Dydio jyst ddim yn Fac-aidd rhywsut.
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan sian » Sad 29 Maw 2008 8:26 am

Dw i newydd osod Cysgliad i'r Mac ond yn methu ei gael i weithio.
Dw i wedi rhoi Cysill a Cysgeir yn y ffolder Applications ac yn y Doc.
Os ydw i'n clicio ar eicon Cysgeir yn y doc, mae'n bownsio cwpwl o weithiau ond dim byd yn digwydd.
Dw i'n gallu agor Cysill a chopïo testun iddo fel mae'n dweud yn y ffeil 'Darllenwch fi' ond dim ond un paragraff sydd yn y golwg a dydi e ddim yn dangos y geiriau y mae'n awgrymu eu cywiro.
Dw i wedi treio dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer cael yr eiconau yn y bar offer - mae'n dweud am agor Cysill, mynd i File ac yna Gosod/Install ond os ydw i'n agor Cysill, does dim dewis 'Install' yn y ddewislen.

All rhywun helpu plis? Siwr ei fod yn hawdd!

Diolch
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Cyflymu OpenOffice.org a NeoOffice

Postiogan Rhoslyn Prys » Sad 29 Maw 2008 9:45 am

Mae yna ffyrdd o gael y rhaglenni hyn i symud bach yn gynt. Mae manylion i'w cael drwy Gwgl, dyma un enghraifft:

http://www.downloadsquad.com/2007/08/18/how-to-speed-up-openoffice/

Pob lwc
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 29 Maw 2008 12:00 pm

Dwi yn cael trafferth gyda CysGair yn penodol. Ynghyd a hyn maen rhaid i mi copio a phastio testun i mewn i Cysill yn hytrach na'i gwirio yn y rhaglen dwi'n defnyddio.


Unrhyw un arall yn cael trafferth gyda GysGair?


Sori am y cwyno, dwi RILI yn ddiolchgar am cael cysgliad i'r MAC!!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan sian » Sad 29 Maw 2008 12:10 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:Dwi yn cael trafferth gyda CysGair yn penodol. Ynghyd a hyn maen rhaid i mi copio a phastio testun i mewn i Cysill yn hytrach na'i gwirio yn y rhaglen dwi'n defnyddio.


Unrhyw un arall yn cael trafferth gyda GysGair?


Sori am y cwyno, dwi RILI yn ddiolchgar am cael cysgliad i'r MAC!!


Dyna ni - run broblem yma.
O'n i MOR ecseited neithiwr pan welais i fod hwn ar gael. Fydd e'n grêt unwaith ga i e i weithio.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 29 Maw 2008 12:39 pm

sian a ddywedodd:
Griff-Waunfach a ddywedodd:Dwi yn cael trafferth gyda CysGair yn penodol. Ynghyd a hyn maen rhaid i mi copio a phastio testun i mewn i Cysill yn hytrach na'i gwirio yn y rhaglen dwi'n defnyddio.


Unrhyw un arall yn cael trafferth gyda GysGair?


Sori am y cwyno, dwi RILI yn ddiolchgar am cael cysgliad i'r MAC!!


Dyna ni - run broblem yma.
O'n i MOR ecseited neithiwr pan welais i fod hwn ar gael. Fydd e'n grêt unwaith ga i e i weithio.


Os ddaw di o hyd i cael e i withio, rho gwybod sut!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: OpenOffice.org 2.4 Cymraeg, Cysgliad i'r Mac ac ati

Postiogan Duw » Sul 30 Maw 2008 6:39 pm

Dwi wedi cael problem gyda Cysill (PC/XP) yn ddiweddar (dwi ddim yn cofio os gwnaeth cyfddyddiad awtomatig ddigwydd) - diflannodd yr eitem o'r toolbar mewn Word. Ceisiais a'i hail-osod heb lwyddiant. Unrhyw un arall wedi cael yr un peth? Rhaid copio a gludo nawr, sy'n real boen.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai