nae creu cyfrif newydd yn gweithio ar 10.4.11 G4 dual, ond mae'n boen er fedri di newid defnyddwyr yn eithaf cyflym.
Ydi o'n gwethio wrth creu cyfrif newydd ar dy 10.4.11 ??
Cymedrolwr: dafydd
nae creu cyfrif newydd yn gweithio ar 10.4.11 G4 dual, ond mae'n boen er fedri di newid defnyddwyr yn eithaf cyflym.
Ydi o'n gwethio wrth creu cyfrif newydd ar dy 10.4.11 ??
Hedd Gwynfor a ddywedodd:3, Dwi dal yn cael y broblem mawr o arafwch y rhaglen. h.y. mae'n cymryd oleiaf 10 eiliad i wirio pob gair unigol. Meddyliwch faint o amser byddai'n cymryd i wirio dogfen gymharol hir!
HuwJones a ddywedodd:Dwi wedi trio'r cyngor o ddechrau cyfrif newydd ar y Mac ac wedi lwytho'r fersiwn newydd o'r rhaglen, ond dwi dal yn cael yr eicon yn bownsio cwpl o weithiau - a wedyn dim byd. Mae hynny ar beiriant G4 10.4.11.
Mae'r hen 'fownsio a wedyn dim' yn broblem sy'n ymddangos ar fforwms ar-lein i ddefnyddwyr Mac
Dyma'r rhai o'r awgrymiadau sy'n cael eu crybwyll i'w datrys:
- Agor cyfrif Mac newydd
- Ail-lwytho y system OSX (ddiw ddim am fentro i wneud hynny ar hyn o bryd)
- "Using Disk Utility to fix permissions" - dwi wedi gwneud hynny - ond doeddwn i ddim yn siwr iawn beth oeddwn neud!
- Dileu y ffeil Preferences ar gfer y rhaglen sy'n broblem (syn cael ei galw'n .plist ar OSX) o'r Llyfrgell
Ar y pwynt diwetha ma. Does dim ffeil .plist wedi'i creu yn y Llyfrgell ar y Mac sydd yn methu redeg Cysgliad.
Tra ar y Mac sydd yn ei rhedeg yn iawn mae ffeil o'r enw "com.yourcompany.CysgliadMac.plist" yn y ffolder Llyfgell yn y ffolder Preferences.
Felly mae'n ymddangos bod y rhaglen ddim yn mynd yn digon pell yn y broses llwytho i greu ffeil .plist
Mae'r boi TG yn y gwaith yn ddweud bod falle y rhaglenni'n clashio gyda rhywbeth arall ar y disc caled wrth lansio. Wnaeth o feddwl taw ffont sy'n cael ei ddefnyddio i ddangos geiriadur / dewislenni yw y broblem (Ludica 'falle?). Wnes i ail-lwytho holl ffonts y system oddi ar y disc OSX gwrieddiol, ond dim help.. so nuch for that theory!
Dwi'n siwr nawn ni ddatrys beth yw' problem, jyst mater o diro pethe.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes unrhywun yma wedi llwyddo i gael Cysgliad ar gyfer Mac i weithio'n gywir gyda holl nodweddion sydd ar gael ar y fersiwn Windows? Mae'r problemau yn golygu nad oes modd i mi ei ddefnyddio. Dyw Cysgeir ddim yn gweithio, ac mae Cysill MOR araf, fel ei bod yn amhosib ei ddefnyddio.
Yn anffodus, mae'n ymddangos fod y prosiect wedi bod yn wastraff arian ar ran Bwrdd yr Iaith. Faint o arian a roddwyd ar gyfer datblygu'r meddalwedd?
Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai