Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Oes mwy o flogiau?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 13 Mai 2008 5:58 pm

Jac Glan-y-gors a ddywedodd:Blog ar gyfer Cynghorydd Sir Plaid Cymru yn Nyffryn Aeron: http://www.plaidaeron.org/

Efallai ei fod yn ateb rhai o'r cwestiynau ar y maes am greu blog dwyieithog:
http://www.maes-e.com/viewtopic.php?f=15&t=24831 drwy ddefnyddio medalwedd Joomla ar ei gyfer (http://www.joomla.org/).


NA, NA, NA!! Ni ddylid byth defnyddio baneri gwald neu wladwriaeth i ddynodi iaith! :drwg: Byddwn i'n ddiawl o anhapus fel CYmro di-Gymraeg i orfod gwasgu ar Jac yr Undeb!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 14 Mai 2008 10:15 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:NA, NA, NA!! Ni ddylid byth defnyddio baneri gwald neu wladwriaeth i ddynodi iaith! :drwg: Byddwn i'n ddiawl o anhapus fel CYmro di-Gymraeg i orfod gwasgu ar Jac yr Undeb!

Dysged Gymraeg felly! :winc:

Mae modd cael gwared ar y baneri ond mae'n nhw'n tynnu sylw at y ffaith fod dewis iaith, a felly does dim rhaid rhoi gormod o Saesneg ar y dudalen flaen i dynnu sylw at hyn. Mae'n arfer eitha cyffredin hyd y gwela i roi baner i ddynodi iaith, dim ond symbol yw e wedi'r cyfan.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Re: Oes mwy o flogiau?

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 14 Mai 2008 11:28 am

Jac Glan-y-gors a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:NA, NA, NA!! Ni ddylid byth defnyddio baneri gwald neu wladwriaeth i ddynodi iaith! :drwg: Byddwn i'n ddiawl o anhapus fel CYmro di-Gymraeg i orfod gwasgu ar Jac yr Undeb!

Dysged Gymraeg felly! :winc:

Mae modd cael gwared ar y baneri ond mae'n nhw'n tynnu sylw at y ffaith fod dewis iaith, a felly does dim rhaid rhoi gormod o Saesneg ar y dudalen flaen i dynnu sylw at hyn. Mae'n arfer eitha cyffredin hyd y gwela i roi baner i ddynodi iaith, dim ond symbol yw e wedi'r cyfan.


Darllen hwn...

From the W3C Working Draft “Authoring Techniques for XHTML & HTML Internationalization: Specifying the language of content 1.0”, Technique 16: Don’t use flags to indicate languages:

"Flags represent countries, not languages. There are many countries that use the same language, and numerous countries that have more than one official language."
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 14 Mai 2008 11:48 am

I fod yn onest dwi wirioneddol ddim yn gweld y broblem - mae'n beth cyffredin iawn i'w wneud a dwi'm 'di clywed neb yn cwyno am y peth erioed :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 14 Mai 2008 11:50 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:I fod yn onest dwi wirioneddol ddim yn gweld y broblem - mae'n beth cyffredin iawn i'w wneud a dwi'm 'di clywed neb yn cwyno am y peth erioed :?


Be fydde ti'n gwneud yn y Swisdir? Yr unig beth sydd angen gwneud ydy 'CYMRAEG' 'ENGLISH' - hollol glir a syml.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 14 Mai 2008 11:51 am

Neu be am Dde Affrica?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 14 Mai 2008 11:55 am

Dwi'n dallt y ddadl am peidio dynodi iaith oherwydd y gallai rhai pobl deimlo sarhad (er, dwi'n ailadrodd, BYTH wedi clywed neb yn cwyno am hyn o'r blaen) - ond o ran bod yn glir, wel, mae'n hollol glir y byddai draig goch yn dynodi Cymraeg a baner Lloegr (neu Brydeinig) yn dynodi Saesneg. Dynodi 'mamwlad' yr iaith y byddai baner, nid y wlad/gwladwriaeth ei hun.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan HuwJones » Mer 14 Mai 2008 1:57 pm

BYTH wedi clywed neb yn cwyno am hyn o'r blaen

Wel ti'n clywed rwan... :ing:

Mae camgymeriad enfawr ar eiriadur ar-lein http://www.geiriadur.net/ wrth ddefnyddio baner Lloegr/St George i gynrychioli opsiwn i ddenyddwyr.

Mae baneri yn cynrychioli gwledydd ac yn ddynodi pethe sy'n perthyn yn benodol i'r wlad honno.

Mae baner St George yn gwbl addas ar gyfer Stadiwm Wembley, Neuadd y Dre Birmingham etc... Wrth gwrs "Branding" timau ffwtbol a rygbi Lloegr sydd yn mwya cysylltiedig a baner St George. Mae St George hefyd yn sant Catalunya ac welir cryn dipyn o'r faner yn Barcelona.

Ond mae baner St George yn branding gwbl anaddas ar gyfer geiriadur sy'n cyfieithu rhwng ddwy iaith Gymru. Mi fasa logo cwmniau Nike neu Volkswagen hefyd yn branding anaddas ar gyfer geiriadur Cymraeg/Saesneg

Mae 100% o bobl Cymru yn siaradwyr y Saesneg. Heb son am holl bobl America, Iwerddon, Yr Alban a miliynau eraill yn y byd sydd ddim yn byw yn neu'n berthyn i Loegr mewn unrhyw ffordd.

Ydy pobl http://www.geiriadur.net/ yn trio cyfleu safbwynt cenedlaethogar eithafol iawn wrth Gymry di-Gymraeg eu bod yn berthyn i Loegr a dim ond y siaradwyr Cymraeg sy'n 'Gymry go iawn'. Mae camgymeriadau gwrion fel hyn yn fêl ar fysedd y rhai sy'n gwrthwynebu'r Gymraeg a Chymru.

Fel mae Hedd wedi dweud - botwm bach syml yn dweud "Cymraeg / English" yw'r ffordd cywir, cwrtais i ddynodi dewis iaith i ddefnyddwyr gwefan - nid baneri.
http://www.geiriadur.net/ Os gwelwch yn dda Newidiwch ar unwaith!!!
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 14 Mai 2008 2:16 pm

HuwJones a ddywedodd:Mae baneri yn cynrychioli gwledydd ac yn ddynodi pethe sy'n perthyn yn benodol i'r wlad honno.


Fel iaith, does bosib?
Ond yn amlwg dwi'm yn mynd i gytuno efo neb ar hyn beth bynnag!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 14 Mai 2008 6:27 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ond yn amlwg dwi'm yn mynd i gytuno efo neb ar hyn beth bynnag!


Wi'n cytuno gyda ti! Difaru postio'r sylw gwreiddiol nawr - ddim yn styried bod cymaint o wrthfanerwyr sy'n teimlo mor gry am y peth. Braf eu byd medru gwylltio am beth fel hyn - a gweiddi Newidiwch ar unwaith!!! a NA! NA! NA!

Wyddwn i dim fod ffordd "gywir" o ddynodi pethau fel hyn fel mae rhai pobol yn awgrymu uchod - ac mae W3C yn awgrymu llawer o bethau (fel symud at wefannau css pur) - ond weles i ddim Newidiwch ar unwaith!!! a NA! NA! NA! yn erbyn diwyg a chod maes-e.

Rhoi sylw i flog dwyieithog oedd y nod - nid i'r dull o newid iaith, a doedd e bendant ddim i fod i arwain at edefyn newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai