BYTH wedi clywed neb yn cwyno am hyn o'r blaen
Wel ti'n clywed rwan...
Mae camgymeriad enfawr ar eiriadur ar-lein
http://www.geiriadur.net/ wrth ddefnyddio baner Lloegr/St George i gynrychioli opsiwn i ddenyddwyr.
Mae baneri yn cynrychioli gwledydd ac yn ddynodi pethe sy'n perthyn yn benodol i'r wlad honno.
Mae baner St George yn gwbl addas ar gyfer Stadiwm Wembley, Neuadd y Dre Birmingham etc... Wrth gwrs "Branding" timau ffwtbol a rygbi Lloegr sydd yn mwya cysylltiedig a baner St George. Mae St George hefyd yn sant Catalunya ac welir cryn dipyn o'r faner yn Barcelona.
Ond mae baner St George yn branding gwbl anaddas ar gyfer geiriadur sy'n cyfieithu rhwng ddwy iaith Gymru. Mi fasa logo cwmniau Nike neu Volkswagen hefyd yn branding anaddas ar gyfer geiriadur Cymraeg/Saesneg
Mae 100% o bobl Cymru yn siaradwyr y Saesneg. Heb son am holl bobl America, Iwerddon, Yr Alban a miliynau eraill yn y byd sydd ddim yn byw yn neu'n berthyn i Loegr mewn unrhyw ffordd.
Ydy pobl
http://www.geiriadur.net/ yn trio cyfleu safbwynt cenedlaethogar eithafol iawn wrth Gymry di-Gymraeg eu bod yn berthyn i Loegr a dim ond y siaradwyr Cymraeg sy'n 'Gymry go iawn'. Mae camgymeriadau gwrion fel hyn yn fêl ar fysedd y rhai sy'n gwrthwynebu'r Gymraeg a Chymru.
Fel mae Hedd wedi dweud - botwm bach syml yn dweud "Cymraeg / English" yw'r ffordd cywir, cwrtais i ddynodi dewis iaith i ddefnyddwyr gwefan - nid baneri.
http://www.geiriadur.net/ Os gwelwch yn dda
Newidiwch ar unwaith!!!