Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 03 Meh 2008 3:16 pm

Aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaah, ffec. Dwi'n ymddeol. :wps:


anochel neu be?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 03 Meh 2008 3:29 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:"Fraternities and Sororities" sef "Brawdoliaethau a Chwaeroliaethau"

!!!

Mae'r rhan 'lle naethoch chi gyfarfod' o f/b yn hanfodol Americanaidd - oes gynnon ni hawl i 'gyfieithu diwylliant' hefyd am nad ydi frats yn rhywbeth sydd gynnon ni yng Nghymru, a bod yr iaith Gymraeg yn golygu bod y diwylliant yn wahanol?


Am beth wyt ti'n rwdlan, mae Gweinidogion dros Gymru yn mynychu Frat bob wythnos.

Newydd gofio i mi gyfieithu "Sororities" yn y diwedd i "Cyrddau Dorcas" yn hytrach na chwaeroliaethau! Gwych!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 03 Meh 2008 4:14 pm

Bydd problemau i gychwyn yn amlwg, ond dyle rhain cael ei sortio mas dros gyfnod o amser. Os nad y'ch chi'n hapus gyda cyfieithiad rhywun arall, cynigiwch un gwahanol. Dim ond y criw sydd wedi cytuno i helpu gyfieithu (sef 200+) sy'n gweld unrhyw Gymraeg ar y rhywngwyneb ar hyn o bryd. Does dim modd i bobl ddewis y Gymraeg fel iaith rhyngwyneb pan yn cofrestru, na newid y rhyngwyneb i'r Gymraeg nes bod yr holl dermau wedi cael eu cyfieithu a bod y cyfan wedi derbyn digon o bleidleisiau, felly gall y broses gymryd rhai misoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 03 Meh 2008 4:21 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:"8 o'ch ffrindiau are now friends with Ioan Teifi" :?


Dwi'n credu bod y trafferthion yma ti'n gwynebu yn rhywbeth lleol. Mae'n edrych yn iawn i fi.

I'r rhai sydd heb osod 'Translations' dyma enghraifft o beth dwi'n gweld ar hyn o bryd:

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Dylan » Maw 03 Meh 2008 4:24 pm

hwyrach bod hyn yn hwyr ac ofer ond dw i am roi un cynnig mawr arall i annog pawb i ddefnyddio "ti" yn lle "chi", er bod hynny'n wir yn mynd yn erbyn argymhelliad Facebook eu hunain (gweler y fersiwn Ffrangeg). "Ti" (a "darllena" yn lle "darllenwch" a "dy" yn lle "eich", ayyb) dw i'n eu defnyddio wrth gyfieithu.

mae Facebook i fod yn rhywbeth cyfeillgar a weddol anffurfiol. Does neb fwy neu lai yn fy ngalw i'n "chi", felly dw i ddim isio cael fy ngalw'n "chi" pan dw i'n logio mlaen i weld lluniau nos Wener chwaith. Hefyd, dw i'n cael y teimlad y byddai mwy o bobl yn defnyddio'r fersiwn Gymraeg rhywsut petai "ti" yn cael ei ddefnyddio. Mae'n darllen yn fwy naturiol.

ond chi bia'r bleidlais, wrth gwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Cardi Bach » Maw 03 Meh 2008 4:34 pm

Dylan a ddywedodd:
ond chi bia'r bleidlais, wrth gwrs.


a ti :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Macsen » Maw 03 Meh 2008 4:44 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:I'r rhai sydd heb osod 'Translations' dyma enghraifft o beth dwi'n gweld ar hyn o bryd:

21 o negeseuon! Mr Poblogaidd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan krustysnaks » Maw 03 Meh 2008 5:19 pm

Sylwad?!

Sylw!
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Cwlcymro » Maw 03 Meh 2008 5:40 pm

ti cyn chi swn i'n gefnogi hefyd. Dim Taid facebook ydwi!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 03 Meh 2008 5:45 pm

beth chi'n defnyddio am "mobile"?

Dwi'n meddwl fod anen rhoi "ffôn symudol" yn hytrach na jest "symudol" ond wedyn falle mae nid at ffôn y maen cyfeirio bob tro mae gair "mobile" yn codi. hmmm
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai