Mae Facebook wedi derbyn y Gymraeg ar y rhestr o ieithoedd i'w cyfieithu. Mae hyn yn wych, gan mai dim ond 35 iaith y mae modd cyfieithu Facebook iddynt ar hyn o bryd, ac mae llawer o'r rhain yn fersiynau gwahanol o Sbaeneg ayb.
Os chi'n aelod o Facebook, ewch draw yma i helpu gyda'r gwaith - http://www.facebook.com/translations/
Mae'r drefn yn un da iawn i ddweud y gwir. mae unrhywun yn gallu cynnig cyfieithiad ar gyfer term arbennig, ac yna mae'r holl ddefnyddwyr yn cael pleidleisio am y term gorau. Ar hyn o bryd dim ond yr adran cychwynnol 'glossary' sydd modd cyfieithu, a dim on 133 o dermau sydd yma.
Yna bydd y gwaith go iawn o gyfieithu 19,419 o frawddegau yn cychwyn! Dwi ddim yn siwr sut mae'r penderfyniad yn cael ei gymryd ynglyn a pryd i symud ymlaen o'r cam 1af 133 o dermau, i'r ail ran 19,419 o frawddegau.
Mae yna hefyd grwp Facebook ar gyfer cyfieithu Facebook i'r Gymraeg - http://www.facebook.com/group.php?gid=12919111260