Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 05 Meh 2008 2:26 pm

Cyfnod prawf yw hwn mewn gwirionedd. Dyw'r fersiwn Gymraeg ddim yn "saff" eto, ac heb gael ei brofi o gwbwl. Ni ddylid fod yn defnyddio'r rhyngwyneb Gymraeg ar hyn o bryd mewn gwirionedd, onibai pan yn yfieithu. Mae angen i chi bostio neges (yn Saesneg) yn yr adran "Bug Reporting" o'r rhaglen "Translations" pan i chi'n sylwi ar unrhyw broblemau o ran defnyddio'r fersiwn Gymraego 'beta' o facebook.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Dwlwen » Iau 05 Meh 2008 2:30 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ma "tynnu" yn cael ei ddefnyddio yn lle "Remove" mewn LOT o lefydd. Naaaaaaaaaaaa!

Chwilia am 'tynnu' yn y cyfieithiadau (dan vote for translations) a cynnig 'dileu' yn lle bob un. 'Na be 'nes am hanner awr heddi :(

"Ydi chi eisiau tynnu eich hun?" Wir :rolio:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Cwlcymro » Iau 05 Meh 2008 2:44 pm

Dwlwen a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Ma "tynnu" yn cael ei ddefnyddio yn lle "Remove" mewn LOT o lefydd. Naaaaaaaaaaaa!

Chwilia am 'tynnu' yn y cyfieithiadau (dan vote for translations) a cynnig 'dileu' yn lle bob un. 'Na be 'nes am hanner awr heddi :(


Fina hefyd!

"Ydi chi eisiau tynnu eich hun?" Wir :rolio:

Um...dim rwan, dwi'n gwaith!

Dw i'n methu postio hefyd - wnes i ddim meddwl newid i Saesneg.
Mae'r peth instant messenger wedi diflannu hefyd.


Gesi drafferth efo'r wal unwaith hefyd, ond ma'r IM yn gweithion iawn i fi. Fel ddudodd Hedd ddo, rhyw fath o fersiwn beta sydd yna rwan, mond ar gael i rheini sy'n cyfieithu. Mi wellith y problema
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan ger4llt » Iau 05 Meh 2008 5:10 pm

Dwlwen a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Ma "tynnu" yn cael ei ddefnyddio yn lle "Remove" mewn LOT o lefydd. Naaaaaaaaaaaa!

Chwilia am 'tynnu' yn y cyfieithiadau (dan vote for translations) a cynnig 'dileu' yn lle bob un. 'Na be 'nes am hanner awr heddi :(

"Ydi chi eisiau tynnu eich hun?" Wir :rolio:


Felly ma' "Ydi chi eisiau dileu eich hun?" yn gywir? Be sy 'na..botwm ar 'ych talcen neu wbath?
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan osian » Iau 05 Meh 2008 9:41 pm

O'sna rywbeth gwell na "bellach yn ffrindiau..."? achos ma hynna yn rhoi ryw awgrym nad oeddach chi'n ffrindia o blaen..
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan ger4llt » Iau 05 Meh 2008 9:54 pm

osian a ddywedodd:O'sna rywbeth gwell na "bellach yn ffrindiau..."? achos ma hynna yn rhoi ryw awgrym nad oeddach chi'n ffrindia o blaen..


Y ffordd dwi 'di bod yn 'i gyfieithu o ydi "yn awr yn ffrindiau", ond ar hyn o bryd 'ma mwy yn cytuno efo "bellach yn ffrindiau" a hwnna sy di sdicio'n amlwg.
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Dylan » Gwe 06 Meh 2008 12:02 am

osian a ddywedodd:O'sna rywbeth gwell na "bellach yn ffrindiau..."? achos ma hynna yn rhoi ryw awgrym nad oeddach chi'n ffrindia o blaen..


dw i ddim yn credu bod yr awgrym yna fawr cryfach na'r hyn sy'n bodoli yn y Saesneg eisoes: "are now friends". Nid yw'n berffaith yn y naill iaith na'r llall a dweud y gwir, ond dw i ddim yn credu bod unrhyw beth i boeni amdano fan yna.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan sian » Gwe 06 Meh 2008 6:34 am

Dw i'n eitha licio "wedi dod yn ffrindiau" - ffrindiau ar Facebook mae e'n ei olygu
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Ray Diota » Gwe 06 Meh 2008 9:16 am

Cwlcymro a ddywedodd:
"Ydi chi eisiau tynnu eich hun?" Wir :rolio:

Um...dim rwan, dwi'n gwaith!


iasu, paid gadel i hynna stopo ti. bwr hi ger'ed!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Cwlcymro » Gwe 06 Meh 2008 9:25 am

osian a ddywedodd:O'sna rywbeth gwell na "bellach yn ffrindiau..."? achos ma hynna yn rhoi ryw awgrym nad oeddach chi'n ffrindia o blaen..

Ma'r un peth yn Saesneg "are now Friends". bellach yn ffrindiau ar Facebook mae o'n olygu, dim bellach yn ffrindia yn y byd mawr go iawn.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron