Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Kez » Gwe 06 Meh 2008 4:47 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ynglyn a'r busnes Ti/Chi 'ma.

Rhaid i ni gael cysondeb, ac mae rheolau/canllawiau Facebook yn ddigon clir. Fi'n ffafrio 'Ti' yn bersonol, ond mae Facebook yn dweud dylid defnyddio chi, felly plis defnyddiwch 'Chi' neu fydd dim siap arno ni! :-s

(Ac i'r Gogs, yn bendant ddim Chdi!)


O ran diddordeb, ma'r fersiwn o Facebook yn Sbaeneg ac Eidaleg a nifer o ieithoedd eraill yn defnyddio 'ti', felly ma'n amlwg bo'r canllawiau yn cael eu hanwybyddu ar y pwynt yna. Ma'r Ffrancwyr yn iwso vous (chi) a byswn i'n meddwl bo hwnna'n ddigon o reswm i bawb arall ddefnyddio 'ti'!

Cysondeb yw'r unig beth sy'n bwysig.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Kez » Gwe 06 Meh 2008 5:52 pm

O ran fy nghyfraniad bach uchod, licwsn i bwysleisio taw cysondeb yw'r peth pwysica o ran defnyddio ti neu chi - ond o'm rhan inna, wi'n ffafrio ti am nifer o resymau; un o'r prif resymau yw am bo fi'n moyn e, fi really really moyn e - ti, tydi a thitha i ennill, ac os nag yw e'n cal ei dderbyn - ffwciwch chi a phob un ohonoch chi nag odd yn cytuno a fi :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Gari Mynach » Llun 09 Meh 2008 11:00 pm

Pwy sydd wedi bod yn camsillafu 'Ychwanegu'??? Dwi'n cael cynnig i 'Ychwanegi' applications O HYD! :drwg:

Mae hynna jyst yn wirion.
Gari Mynach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 21 Maw 2008 9:21 pm

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan SerenSiwenna » Maw 10 Meh 2008 10:35 am

huwwaters a ddywedodd:Pwy sy'n cyfieithu rhai o'r pethe ma?!

Edit Profile Stories rywsut yn cael ei gyfieithu i:

Straeon Golygu Proffil
Straeon am olygu Proffil


:lol: :lol: Wel mae nhw'n swndio'n diddorol tydan? (Y streon cw) :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan SerenSiwenna » Maw 10 Meh 2008 10:41 am

Dwi di bod yn darllen yr ehedyn yma ac mae'n ddiddorol iawn a dwi'n falch bod hyn oll yn digwydd. Ond o ni wedi darllen (yn golwg dwi'n credu) fod cymerodolwyr facebook yn anti linguistic minority ayyb? Oedd hyn yn wir o gwbwl? Ydan nhw di newid ei tiwn?

Fodd bynnag, mae'n neis gwybod fod facebook yn cael ei cymreicio - dwi di cadw draw tan rwan, ond ella ai draw na rhywbryd, os mae'n bosib creu tudalen Cynraeg i fi fy hun :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan Ray Diota » Maw 10 Meh 2008 12:07 pm

ma ishe newid wedi wedi dywedïo 'fyd...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Ti sy'n iawn - bron bob tro.

Postiogan HuwJones » Iau 12 Meh 2008 12:53 pm

O ran fy nghyfraniad bach uchod, licwsn i bwysleisio taw cysondeb yw'r peth pwysica o ran defnyddio ti neu chi - ond o'm rhan inna, wi'n ffafrio ti am nifer o resymau; un o'r prif resymau yw am bo fi'n moyn e, fi really really moyn e - ti, tydi a thitha i ennill,


Ti sy'n iawn. .... Da iawn Ti
Mae cyfieithwyr obsessed gyda phob dim bod yn 'Chi' sy'n lot rhy anghyfeillgar ar y rhan mwya o bethau argraffedig neu ar-lien. Dylai pob hysbys papur a rhyngwyneb defnyddio Ti. Cadwa Chi ar gyfer pethe sy'n swyddogol / ffurfiol - fel arwydd sy'n rhybudd dirwy parcio neu ffurflen cais am basport.

Mae cyfieithwyr rhai rhaglenni hefyd yn troi pob dim mewn i orchymyn ffurfiol "Agorwch", "Pwyswch ar yr eicon" fel petai nhw'n athro ysgol yn gweddu ar lond dosbarth o blant drwg... y 'cywair iaith' cwbl anghywir. Dylai rhyngwyneb cyfrifiaduron personol (PCs) fod yn bersonol a chyfeillgar - dim yn amhersonol a ffurfiol
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan joni » Gwe 13 Meh 2008 1:06 pm

Pam fod y rhifau yn y Gymraeg yn defnyddio pwynt degol yn hytrach na choma?
e.e Mae 3.113 o bobl wedi'u gwahodd hyd yn hyn.
yn hytrach na
Mae 3,113 o bobl wedi'u gwahodd hyd yn hyn.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan ceribethlem » Gwe 13 Meh 2008 1:48 pm

joni a ddywedodd:Pam fod y rhifau yn y Gymraeg yn defnyddio pwynt degol yn hytrach na choma?
e.e Mae 3.113 o bobl wedi'u gwahodd hyd yn hyn.
yn hytrach na
Mae 3,113 o bobl wedi'u gwahodd hyd yn hyn.

Achos dim ond ychydig dros tri o bobl sydd wedi eu gwahodd. Tri person, a bys efallai.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Facebook Cymraeg ar ei ffordd...

Postiogan joni » Gwe 13 Meh 2008 2:17 pm

ceribethlem a ddywedodd:Achos dim ond ychydig dros tri o bobl sydd wedi eu gwahodd. Tri person, a bys efallai.

Pfft. Ma .113 o berson yn ddwrn o leia.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai