Tudalen 1 o 4

Twitter

PostioPostiwyd: Gwe 20 Meh 2008 1:17 pm
gan Rhodri Nwdls
Shwdi beis. Gan fod ma ambell i faesydd ar Twitter, sa'n dda ffeindio alla oes mwy i mi gael eich dilyn chi. Yda chi'n Twitran?

*twît twît*

nwdls, ydw i yno.

Hefyd, oes unrhywun yn gwybod am Twitter mobile app sy'n gweithio ar SonyEricsson K770i? Dwi'n casau derby ntweets drwy text a well gen i jest mynd i'r wefan m.twitter.com, ond does dim posib ymateb i tweets yno.

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Gwe 20 Meh 2008 2:40 pm
gan Beti
Dwi'n twitro - ond dwi'm yn siwr os dwi'n gwbod be dwi'n neud.Dwi'n siwr bo fi'n colli rhywbeth - ond wedyn mae o i fod yn syml a chyflym tydi.
Ond ti di ffeindio fi Nwdls!

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Maw 02 Medi 2008 11:22 am
gan Griff-Waunfach
Mi wyf i yn twitero o bryd i'w gilydd

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Maw 02 Medi 2008 2:48 pm
gan eusebio
Ia, ond pwy yda chi?

Mae sgorio yn twitro

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Maw 02 Medi 2008 3:27 pm
gan Mr Gasyth
Be 'di Twitter?

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Maw 02 Medi 2008 3:29 pm
gan dawncyfarwydd
Dwi'm yn dallt apêl y peth...dio'm fel statws ar Facebook, ond heb weddill adnoddau a bendithion Facebook?

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Maw 02 Medi 2008 3:56 pm
gan Mwnci Banana Brown
O be dwi'n deall- ie. Os lot o boint i'r holl beth wedyn?

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Llun 08 Medi 2008 11:28 am
gan Rhodri Nwdls
Ma'n fwy o micro-blog nac updates FB (oherwydd ei fod yn siwtio links yn well), ac mae'n siwtio updates mwy aml na FB am bo ti'n gallu gweld nôl trwy updates. Ma hefyd yn siwtio mobile yn well na FB dwi'n teimlo. Ti hefyd yn gallu ymateb i updates pobol, er fod hyn yn bosib ar FB erbyn hyn hefyd dwi'n meddwl.

Dwi'n meddwl fod na fwy o ddefnydd o Twitter ar gyfer nid dim ond 'ffrindiau', ond ar gyfer gweld y zeitgeist cyffredinol drwy ddefnyddio twitter search. Mae'n bosib gweld be ma pobol yn gneud mewn dinas, neu am be maent yn siarad ar bwnc cyfredol. Ma'n eitha defnyddiol o ran gweld be sy'n mynd mlaen yn y byd technoleg hefyd os nad ydach chi'n gallu bod yn arsed mynd trwy blogs. Oeddech chi'n arfer gallu gwneud yr holl beth drwy sms, ond ma nhw wedi stopio anfon tweets i chi drwy sms rwan (ym Mhrydain) am ei fod yn rhy ddrud. Ma defnyddio application Twhirl ar y desktop yn gwneud o'n hawdd iawn i gadw trac ar be da chi'n ddilyn ac i sgwennu tweet cyflym. Unig downside Twitter ydi nad ydyn nhw'n archifo tweets am hir iawn, so ma'r elfen micro-blogging yn gneud llai o synnywr braidd.

Nesh i drio synchio twitter updates efo FB updates am chydig ond oedd y petha oeddwn i'n ddeud ar Twitter jest ddim yn gweithio ar FB. Dydi pobol ddim isio link am adroddiad OFCOM ar broadband ar FB, ma nhw isio gwybod am lle wyt ti ne be ti'n gneud, tra bod Twitter mwy am be ti'n feddwl am rwbath, isio'i rannu, yn ogystal a be ti'n gneud a lle wyt ti.

Dwi dal ddim yn siwr felly a oes pwynt Twittero yn y Gymraeg (yn unig) ac os ydi o yr un mor ddefnyddiol mewn lle lle nad oes llawer o Twitterers (o'i gymharu a Twitro yn rhywle fel dweder Llundain, lle bydd gen ti lu o Twiterrers yn trafod yr un pethau a ti)...fodd bynnag dwi'n joio fo, a'r criw bach o bobol sydd yn twitro yn Gymraeg, a ma'n cymryd llawer llai o'n amser na blogio. Sy'n gwd thing ar hyn o bryd.

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Maw 09 Medi 2008 3:46 pm
gan Rhys Llwyd
Cytuno Nwdls. Mae e llawer mwy flowing na bloggio rhywsut ac yn clutter free o'i gymharu a FB. Yr unig anfantais yw fod pobl mor geidwadol a protective o FB erbyn hyn fel eu bod nhw'n ofn mentro at Twitter. Tan bod gen ti lond dwrn o ffrindiau ar Twitter neu o leiaf yn dilyn dieithriaid sydd ar un diddordebau a ti spos fod Twitter yn ddibwynt. Dwi'n dilyn llond llaw o ffrindiau, nerdz technolegol fel Rorry Kellan Jones y BBC ynghyd ag arweinwyr ifanc eglwysi mewn gwledydd eraill - yn dilyn 49 ac mae 46 yn fy nilyn i ar hyn o bryd.

Dwi ddim yn meddwl neith o byth cicio off fel FB, os bydda fo wedi mi fydda fo wedi gneud erbyn hyn. O ran poblogrwydd dwi'n meddwl mae rhywbeth eitha tebyg i blogio fydd e o ran poblogrwydd - ychydig ffyddlon yn hytrach na'r massess passive.

Mae yna ddiffyg mawr o twittwyr cyson yn y Gymraeg - dim ond fi a Nwdls sydd rili yn twittro'n gyson gyda llond dwrn o bobl eraill yn gadael un twit y dydd ond yn fwy tebygol 2 neu 3 yr wythnos.

Ymunwch!

Re: Twitter

PostioPostiwyd: Maw 09 Medi 2008 4:08 pm
gan Llefenni
Newydd arwyddo fyny iddo wan, pwy sy'n deud bod peer-pressure ddim yn gweithio hyh? Jiawleds :(