WordPress Cymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 01 Medi 2008 10:47 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:oce, wedi cael y blog i weithio nawr!

http://blog.rhysllwyd.com/

felly ymlaen at y cyfieithu. Oes yna ffordd hawdd o gyfieithu'r widjets sgenna i lawr yr ochr chwith?


Gosod y pecyn iaith ddanfonais i ato ti ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 01 Medi 2008 10:49 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:oce, wedi cael y blog i weithio nawr!

http://blog.rhysllwyd.com/

felly ymlaen at y cyfieithu. Oes yna ffordd hawdd o gyfieithu'r widjets sgenna i lawr yr ochr chwith?


Gosod y pecyn iaith ddanfonais i ato ti ;-)


Sut? :P
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Duw » Llun 01 Medi 2008 3:06 pm

Fydd y gosodiadau tu fewn config.php mwy na thebyg. Ble bynnag gwelid en_US neu en_GB newid hyn i cy neu cy_GB - dibynnu beth yw enw'r ffolder/ffeil.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 01 Medi 2008 5:02 pm

Rhoslyn sydd wedi gwneud y cyfieithiad, diolch yn fowr iddo fe, a dwi'n credu ei fod yn bwriadu ei lwytho lan i wefan Wordpress fel cyfieithiad swyddogol, ond ddim yn siwr os yw wedi cael cyfle eto. Beth bynnag, er mwyn gosod y pecyn iaith:

1, Agor y ffeil wp-config.php a chwilio am

Cod: Dewis popeth
define ('WPLANG', '');


2, Newidia i:

Cod: Dewis popeth
define ('WPLANG', 'cy-GB');


3, Arbed y ffeil.

4, Ar y gweinydd, bydd angen creu ffolder newydd yn /wp-content NEU /wp-includes o'r enw /languages.

5, Lanlwytha y ffeil cy-GB.mo (wnes i ebosio ato ti) i'r ffolder /languages ti newydd greu.

6, Llwytha'r ffeil diwygiedig wp-config.php yn ôl i 'root' y gweinydd.

7, Agor dy borwr, a cer at dy wefan, a dylai ymddangos yn Gymraeg!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan 7ennyn » Maw 03 Chw 2009 6:10 pm

Ategyn newydd ar gael i gywiro ol-ddodiad dyddiadau Cymraeg. Er enghraifft, bydd "Dydd Sadwrn, Ionawr 31st, 2009" yn cael ei gywiro i "Dydd Sadwrn, Ionawr 31ain, 2009".

http://wordpress.org/extend/plugins/olddodiadau/
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Rhys » Sul 22 Maw 2009 8:49 am

Mae Rhoslyn (meddal.com) wedi gosod cyfiethiad Cymraeg o Word Press 2.7 ar ei wefan. Tydy o ddim yn amlwg iawn, ond mae'r ffeiliau i'w cael hanner ffordd lawr y dudalen yma:
http://www.meddal.com/wordpress.htm
cliciwch ar 'ffeili iaith'
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Mwnci Banana Brown » Mer 23 Medi 2009 2:52 pm

Os cyfeithiad cymrag i gal i 2.8 yn rwle?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Rhysjj » Gwe 06 Tach 2009 9:48 am

Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Os cyfeithiad cymrag i gal i 2.8 yn rwle?


Ga i ofyn yr un cwestiwn? Hefyd, oes 'na unrhyw waith wedi'i wneud ar gyfieithu WPMU (y fersiwn aml-ddefnyddiwr?) Mae'n grêt ei ddefnyddio a'i weinyddu, ac mi fyddai'n lyfli medru cynnig rhyngwyneb Cymraeg iddo.
Rhysjj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 58
Ymunwyd: Llun 22 Maw 2004 1:34 am
Lleoliad: Y De a'r Gogledd

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron