WordPress Cymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

WordPress Cymraeg

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 27 Meh 2008 11:35 am

Dwi'm yn dallt y pethe ma, ond dwi'n trio sefydlu blog dwyieithog ar gyfer rhywyn drwy'r gwaith. Mae ein cwmni gwe yn deud nad ydyn nhw'n gallu dod o hyd i fersiwn WordPress Cymraeg diweddarach na 1.5.2, tra bo'r fersiwn Saesneg bellach ar 2.5.1. Tydi'r cwmni gwe ddim yn dallt lot am y Gymraeg.

Ydi hyn yn gywir, ynteu oes yna fersiwn Cymraeg o becyn diweddarach ar gael, ac os felly o lle?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan nicdafis » Gwe 27 Meh 2008 11:52 am

Sa i'n credu bod 'na. Mae rhyngwyneb yn gymysgedd o'r Gymraeg a Saesneg gyda fi (gweler isod).

Picture 1.png
Picture 1.png (112.91 KiB) Dangoswyd 5695 o weithiau
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Rhoslyn Prys » Gwe 27 Meh 2008 7:59 pm

Mae yna gyfieithiad o 2.2.1 ar safle Meddal.com.

Nes i wneud safle gwe ar gyfer http://www.capelyffynnon.org yn Wordpress. Mae wedi symud ymlaen i 2.5 gyda 700 o linynnau newydd - braidd yn afresymol roeddwn i'n ei feddwl, wedi cadw at 2.2.1 ar hyn o bryd...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 14 Gor 2008 8:41 pm

Oes rhywun wedi cychwyn ar y broses o gyfieithu Wordpress 2.5 i'r Gymraeg? Ble mae modd cael gafael ar y llinynnau sydd angen cyfieithu? Yw hi'n saff gosod cyfieithiad 2.1 ar Wordpress 2.5?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 15 Gor 2008 11:07 pm

Oes modd defnyddio Pootle fel bod criw yn gallu helpu gyda'r gwaith cyfieithu i'w wneud yn gynt?

Mae hwn yn nodi mae dim ond 10% o'r rhifyn diweddaraf o Wordpress sydd wedi ei gyfieithu, ond onid oes modd sugno'r data o'r hen fersiwn 2.1 mewn i hwn, a dim ond cyfieithu y llinynnau sy'n newydd rhwng 2.1 a 2.5?

http://pootle.locamotion.org/cy/wordpress/

Wedi darganfod mwy o wybodaeth yma:
http://codex.wordpress.org/Translating_ ... ion.org.29
http://translate.sourceforge.net/wiki/d ... ress_files
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan mario » Llun 04 Awst 2008 10:32 am

Meddwl sw ni'n gadael i'r rhai sydd yn defnyddio [neu a diddordeb yn WordPress] wybod fod Peter Westwood, un o Brif Ddatblygwr Wordpress yn dod i siarad mewn digwyddiad yn Llandudno ar Hydref 23ain.

Dyma linc i'r digwyddiad ar maes-e i chi http://www.maes-e.com/viewtopic.php?f=13&t=26216 a chewch wybodaeth ar wefan y trefnwyr yma http://www.bloc.org.uk/cgi-bin/showbig.cgi?id=91&action=welsh
Rhithffurf defnyddiwr
mario
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 8:03 am

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 31 Awst 2008 10:16 pm

Dwi yn y broses o symud fy mlog o blogger i wordpress. Dwi wedi installio popeth yn iawn ac mewn yn admin mae popeth i weld yn oce ond mae'r wefan/blog yn blank, wele http://blog.rhysllwyd.com

Oes rhywbeth dwi angen gwneud i ddod ar cyfan yn fyw neu a'i problem gyda lle dwi wedi lleoli y ffeiliau wp yn fy FTP yw'r broblem? mae'r ffeiliau wedu eu lleoli yn http://blog.rhysllwyd.com/blogrhysllwyd da fi. 'blogrhysllwyd' yn ffeil ar fy FTP ac yng ngweinydd fy server dwi wedi dweud mae directory y subdomain blog.rhysllwyd.com yw'r ffeil 'blogrhysllwyd'.*

Rhyfedd iawn fod y blog wp ddim jest yn ymddangos nawr.

Unrhyw dips?

[* jest newydd feddwl, ydy gweinyddion fel arfer angen cwpwl o oriau i brosessu newidiadau o ran i ba directory y mae pob domain yn pwyntio? Os felly efallai fydd popeth yn oce erbyn y bore achos dim ond rhyw awr yn ol wnes i greu'r ffeil ar yr FTP a phwyntio'r domain ato]
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Duw » Sul 31 Awst 2008 10:34 pm

Ie, gall is-barth gymryd amser i'w osod (dibynnu ar dy westeiwr fel arfer). Os nac ydy'n fyw ymhen 24 awr, ymchwilia'n bellach. Sut wyt ti wedi cyfeirio'r ffeil i'r url? A wnest ti hyn drwy HTACCESS? A oes FTP arbennig ganddot i blog.xxx.xxx neu wyt yn defnyddio FTP i http://www.xxxxxxx.xxxxx/blogrhysllwyd/?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 31 Awst 2008 11:49 pm

Duw a ddywedodd:Ie, gall is-barth gymryd amser i'w osod (dibynnu ar dy westeiwr fel arfer). Os nac ydy'n fyw ymhen 24 awr, ymchwilia'n bellach. Sut wyt ti wedi cyfeirio'r ffeil i'r url? A wnest ti hyn drwy HTACCESS? A oes FTP arbennig ganddot i blog.xxx.xxx neu wyt yn defnyddio FTP i http://www.xxxxxxx.xxxxx/blogrhysllwyd/?


Dyma sut mae fy is-barth wedi ei osod i fynny. Yr is-barth ei hun yn sicr yn oce ond beth sydd falle heb ddod trwyddo eto yw'r cyfarwyddyd i gymryd y ffeil 'blogrhysllwyd' ar fy FTP fel ei home directory:

blogproblem1.jpg
blogproblem1.jpg (65.65 KiB) Dangoswyd 5448 o weithiau


Wedyn fe weli di isod mod i wedi gosod y wweiliau 'wp' i mewn yn y ffolder 'blogrhysllwyd' ar fy FTP:

blogproblem2.jpg
blogproblem2.jpg (246.55 KiB) Dangoswyd 5448 o weithiau


Ond mae http://blog.rhysllwyd.com dal yn wag er mod i wedi mynd trwy'r wp install ac yn gallu mynd i mewn i admin y blog via http://blog.rhysllwyd.com/wp-admin
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: WordPress Cymraeg

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 01 Medi 2008 9:26 am

oce, wedi cael y blog i weithio nawr!

http://blog.rhysllwyd.com/

felly ymlaen at y cyfieithu. Oes yna ffordd hawdd o gyfieithu'r widjets sgenna i lawr yr ochr chwith?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron