Hwre! Mae diweddariad mwy diogel a gwell ar gael o Firefox 3.
Bwhw! Mae newid wedi digwydd yn y gofynion ar gyfer y pecyn iaith ac felly, wrth osod Firefox 3.0.1 mae'n gwrthod derbyn y pecyn iaith gwreiddiol. (Mae'n debyg fod hyn yn wir am becynnau iaith ac ategynnau eraill hefyd).
Mae Dewi wedi wedi creu pecyn iaith newydd sy'n gweithio ar 3.0.1 a phob fersiwn arall o Firefox 3 yn y dyfodol (gobeithio).
Mae ar gael ar safle Meddal neu yn syth o fan hyn