Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan tachwedd5 » Sad 30 Awst 2008 10:12 pm

Shwmae pawb, dwi'n newydd yma. Hoffwn i rhoi gwybod i chi gyd, pryd es i at Tesco prynhawn 'ma - Defnyddiais i 'r wasanaeth "Self Service" fel arfer, ond tro yma roedd na botwm "Cymraeg" i gwasgu, gwasgais i'r botwm a "Hey Preso" aeth bobeth yng Nghymraeg, yr iaith a sain, diddorol iawn eh! edrychwch mas am y botwm hyn tro nesaf.

Pryd gwasgais i'r botwm roedd lefel y sain rhy uchel!! roedd pawb yn edrych arnai ! lol

Un peth arall, dw i'n newyddd yma a dw i ddim wedi ysgrifennu mewn Cymraeg ers gadael ysgol chwech mlynedd ynol, fellu esgysodwch fi :D

Gwybodaeth ychwanegol: Tesco Extra, Fforestfach - Abertawe.
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan sian » Sad 30 Awst 2008 10:41 pm

Da! Dw i'n tueddu i osgoi'r llefydd lle chi'n gorfod sganio'r pethau'ch hunan - ond os yw e'n Gymraeg, falle rodda i shot arni!
Oes rhywun yn gwbod ydyn nhw mewn Tescos erill? Bangor?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 30 Awst 2008 10:44 pm

Dwi'n gwybod bod aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cwyno dros y misoedd diwethaf nad yw'r peiriannau yma ar gael yn Gymraeg, a bod Tesco wedi addo cyflwyno gwasanaeth Cymraeg ar y peiriannau trwy Gymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Dylai fod pob peiriant yn siarad Cymraeg cyn hir felly.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan Mali » Sul 31 Awst 2008 3:11 am

Da de ! A chroeso i maes-e tachwedd5 ! :)
Falch iawn o glywed fod gan Tesco wasanaeth Cymraeg newydd......pan ddwedest ti fod y sain yn rhy uchel a fod pawb yn edrych arnat , ges i fy atgoffa o ddyddiau sieciau Cymraeg yn M&S pan oedd y ferch wrth yml y till yn gweiddi dros bob man ...."Welsh cheque , Welsh cheque !" :P
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan sian » Sul 31 Awst 2008 8:48 am

Mali a ddywedodd:ges i fy atgoffa o ddyddiau sieciau Cymraeg yn M&S pan oedd y ferch wrth yml y till yn gweiddi dros bob man ...."Welsh cheque , Welsh cheque !" :P

Neu, am resymau gwahanol, pan fydd gweithiwr dan 18 wrth y tils yn yr archfarchnad leol yn gweiddi ar un o'r gweithwyr hŷn "Diod!" - neu'n waeth byth "Ma hon isho diod!"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan tachwedd5 » Sul 31 Awst 2008 10:56 am

Diolch am y chroeso Mali,

ges i fy atgoffa o ddyddiau sieciau Cymraeg yn M&S pan oedd y ferch wrth yml y till yn gweiddi dros bob man ...."Welsh cheque , Welsh cheque !"


Neu, am resymau gwahanol, pan fydd gweithiwr dan 18 wrth y tils yn yr archfarchnad leol yn gweiddi ar un o'r gweithwyr hŷn "Diod!" - neu'n waeth byth "Ma hon isho diod!"


Ha ha, doniol iawn!! :D
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan Barbarella » Sul 31 Awst 2008 11:09 am

sian a ddywedodd:Oes rhywun yn gwbod ydyn nhw mewn Tescos erill? Bangor?


Tesco bach Trefynach yng Nghaerdydd efo peiriannau Cymraeg penwythnos ma. Dyw'r botwm ddim yn amlwg iawn - nes i ddim sylwi tan hanner ffordd drwodd - ond ti'n cael newid iaith unrhywbryd ti eisiau, a mae'r llais Cymraeg yn uchel iawn :-)

Ond gas gen i'r peiriannau yna fel arfer - yn enwedig os ti'n trio bod yn wyrdd a rhoi pethau mewn rycsac neu fag sy gen ti'n barod - maen nhw'n cael rîl strop efo ti.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan ap Dafydd » Sul 31 Awst 2008 6:57 pm

Beth oedd safon y Gymraeg?

Mae Tesco wedi bod yn ofnadwy yn y dyfodol gyda'u harwyddion

Fy hoff un oedd wedi cynnig "pobi gyda bathodynnau oren" mewn maes parcio, hefyd *pob hywel" ar y fforrdd mas.

Ffred
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan tachwedd5 » Sul 31 Awst 2008 7:37 pm

pob hywel!! lol

Cymerais i ddim sylw ar y testun ar y sgrin i dweud y gwir ond roedd y geiriau siarad yn swnio'n iawn. Cymera i mwy o sylw ar sillafi tro nesaf, gobeithio bydd y wasanaeth ar gael yn Tesco Express Abertawe yfory.
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan Pendra Mwnagl » Iau 02 Hyd 2008 9:42 pm

Nes i ddefnyddio'r peiriant yn Gymraeg yn Tesco Pengam Green yng Nghaerdydd. Rhaid dweud ei fod yn brofiad od! Pobl yn edrych arna i fel tase cyrn yn tyfu allan o mhen i. Y llais Cymraeg yn atseinio dros y siop! Yr unig feirniadaeth ydy bod dim dewis cyfartal ar y dechrau h.y. defaultio i'r Saesneg.
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron