Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan ap Dafydd » Sul 31 Awst 2008 6:57 pm

Beth oedd safon y Gymraeg?

Mae Tesco wedi bod yn ofnadwy yn y dyfodol gyda'u harwyddion

Fy hoff un oedd wedi cynnig "pobi gyda bathodynnau oren" mewn maes parcio, hefyd *pob hywel" ar y fforrdd mas.

Ffred
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan tachwedd5 » Sul 31 Awst 2008 7:37 pm

pob hywel!! lol

Cymerais i ddim sylw ar y testun ar y sgrin i dweud y gwir ond roedd y geiriau siarad yn swnio'n iawn. Cymera i mwy o sylw ar sillafi tro nesaf, gobeithio bydd y wasanaeth ar gael yn Tesco Express Abertawe yfory.
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan Pendra Mwnagl » Iau 02 Hyd 2008 9:42 pm

Nes i ddefnyddio'r peiriant yn Gymraeg yn Tesco Pengam Green yng Nghaerdydd. Rhaid dweud ei fod yn brofiad od! Pobl yn edrych arna i fel tase cyrn yn tyfu allan o mhen i. Y llais Cymraeg yn atseinio dros y siop! Yr unig feirniadaeth ydy bod dim dewis cyfartal ar y dechrau h.y. defaultio i'r Saesneg.
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 03 Hyd 2008 9:37 am

ap Dafydd a ddywedodd:Mae Tesco wedi bod yn ofnadwy yn y dyfodol gyda'u harwyddion


Sut ti'n gwybod hynny!! :winc:

Dwi 'di cael cynnig ar y gwasanaeth hefyd, yn Grangetown a Threganna ac hyd y gwela i'n mae'n wasanaeth cywir o ran yr iaith, yn ogystal â bod yn wasanaeth eitha handi beth bynnag.

Gobeithio y bydd siopau eraill yn dilyn yr enghraifft achos dwi'm yn licio Tesco.

Pendra Mwnagl a ddywedodd:Pobl yn edrych arna i fel tase cyrn yn tyfu allan o mhen i.


Ges i hynny yn Grangetown! Ond dwi'n siwr ei fod yn fwy o 'novelty' na dim arall - ro'n i hefyd yn ei chael hi'n brofiad rhyfedd!

tachwedd5 a ddywedodd:Cymera i mwy o sylw ar sillafi tro nesaf...


Ti'n siwr? :winc:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gwasanaeth Cymraeg Newydd Tesco.

Postiogan tachwedd5 » Iau 16 Hyd 2008 10:14 pm

wps!!! sillafu, sori :)
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai