Dylunio tudalen we.

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Ti 'di beni? » Mer 10 Medi 2008 9:14 pm

Blogger = Blogspot

Pam newid o be ti'n wybod?

Yr unig awgrymiad arall yw WordPress.com, achos bod themau gwell (dos am unrhywbeth sy'n seiliedig ar K2, ei dim yn rong), Ond os ti'n deall Blogger yna fysa haws i ti aros fana (a neith o mond cymryd 2 funud i ti greu blog newydd yn dy gyfri presennol).

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Mali » Mer 10 Medi 2008 10:52 pm

Diolch yn fawr ...syniad da ! :D
Doeddwn i ddim yn rhy siwr os fasa Blogspot neu Wordpress yn caniatau blog ar gyfer busnes.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan jac » Iau 18 Medi 2008 11:13 am

Dwi'n cytuno gyda'r sylwadau uchod ar y cyfan, ond mae gan WordPress un mantais mawr arall - sef bod ganddi lu o ategolion (plugins). Gyda help yr ategolion yma mae modd troi WordPress mewn i System Rheoli Cynnwys (Content Management System) sydd bron iawn mor bwerus a Joomla, a tipyn yn haws i'w ddefnyddio. Engreifftiau o'r ategolion sydd ar gael: "Language Switcher" - sy'n gwneud hi'n haws i ti greu gwefannau dwyieithog; "NextGen Gallery" - i greu oriel o dy ddelweddau; "Event Calendar" - creu rhestr o ddigwyddiadau ar ffurf calendr.

Mae modd creu blog WordPress o'r math: http://www.dyenwdi.wordpress.com yn rhad ac am ddim - gyda WordPress (y cwmni h.y.) yn westeiwr (host). Ond er mwyn defnyddio'r ategolion mae angen gosod WordPress ar westeiwr sy'n annibynnol o WordPress. Er bod y meddalwedd a'r ategolion yn rhad ac am ddim mae angen talu'r gwesteiwr am y gwasanaeth gwesteio e.e. mae Adept Hosting yn codi £29.50 y flwyddyn am flog Wordpress elfennol. Mae gwesteiwyr rhatach i'w gael yn yr Unol Daleithiau. Os wyt ti'n rhagweld y bydd dy wefan yn ehangu i'r dyfodol (un enwedig os wyt ti am werthu nwyddau dros y we) dyma'r trywydd mwyaf hyblyg y gallaf awgrymu.

Os nad yw hyn yn eglur cysyllta â mi, ac mi wnaf fy ngorau i esbonio ymhellach.
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai