Dwi'n cytuno gyda'r sylwadau uchod ar y cyfan, ond mae gan WordPress un mantais mawr arall - sef bod ganddi lu o ategolion (plugins). Gyda help yr ategolion yma mae modd troi WordPress mewn i System Rheoli Cynnwys (Content Management System) sydd bron iawn mor bwerus a Joomla, a tipyn yn haws i'w ddefnyddio. Engreifftiau o'r ategolion sydd ar gael: "Language Switcher" - sy'n gwneud hi'n haws i ti greu gwefannau dwyieithog; "NextGen Gallery" - i greu oriel o dy ddelweddau; "Event Calendar" - creu rhestr o ddigwyddiadau ar ffurf calendr.
Mae modd creu blog WordPress o'r math:
http://www.dyenwdi.wordpress.com yn rhad ac am ddim - gyda WordPress (y cwmni h.y.) yn westeiwr (host). Ond er mwyn defnyddio'r ategolion mae angen gosod WordPress ar westeiwr sy'n annibynnol o WordPress. Er bod y meddalwedd a'r ategolion yn rhad ac am ddim mae angen talu'r gwesteiwr am y gwasanaeth gwesteio e.e. mae Adept Hosting yn codi £29.50 y flwyddyn am flog Wordpress elfennol. Mae gwesteiwyr rhatach i'w gael yn yr Unol Daleithiau. Os wyt ti'n rhagweld y bydd dy wefan yn ehangu i'r dyfodol (un enwedig os wyt ti am werthu nwyddau dros y we) dyma'r trywydd mwyaf hyblyg y gallaf awgrymu.
Os nad yw hyn yn eglur cysyllta â mi, ac mi wnaf fy ngorau i esbonio ymhellach.