Dylunio tudalen we.

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dylunio tudalen we.

Postiogan Mali » Sul 07 Medi 2008 9:45 pm

Sut mae dechrau dylunio tudalen we ar gyfer busnes bychan ogydd? Wedi bod yn chwilota ar y we am syniadau , ond ddim yn siwr pa le i gychwyn . Sgin rhywun brofiad o hyn? Hefyd a oes rhaid talu?
Diolch ... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Ti 'di beni? » Sul 07 Medi 2008 10:01 pm

Ti well off yn talu rhywun i neud o i ti.

Ar ol i chdi ddysgu yr holl stwff o neu un, ti well off yn sticio i be ti'n neud yn dda, a cael gwefan broffesiynol wedi'u gwneud o fewn yr wythnos.

Ond, os ti'n benderfynol...

http://www.google.com/search?q=learn+html

http://www.google.com/search?q=learn+css

http://nettuts.com/

http://psdtuts.com/

Joia,

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Duw » Sul 07 Medi 2008 11:02 pm

Cytuno gyda Ben.

Gallet gael un o'r wefannau off-the-shelf, ond nid ydynt yn edrych yn ffantastig. Gallet wneud un d'hunan, ond gall pethau fynd yn lletchwith iawn wrth ddysgu XHTML, CSS ac amryw o ieithoedd ochr-cleieint ac ochr-gweinyddwr.

Mae llawer o sbort i'w gael wrth ddysgu sut i adeiladu gwefannau, ond mae'r cost o ran meddalwedd/caledwedd ac amser (i ddysgu sut i ddefnyddio pecynnau a dusgy ieithoedd) yn gallu bod yn ofnadwy o uchel, yn enwedig os nac oes cefndir sgriptio/codio gennyt.

A wyt am hysbysebu dy fusnes yn unig neu wyt am werthu pethe trwyddi?

Mae'r rhan fwyaf o busnese yn talu pobl i gynhyrchu hysbysebion papur oherwydd bydd y cynnyrch o safon arbennig. Dylai gwefan cael ei hystyried yn yr un fath modd. Os yw gwefan yn edrych yn "shoddy" neu'n "homemade" (dim offence), yn aml bydd busnes yn dianc.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 08 Medi 2008 9:09 am

Diolch am wetwork.org.uk Duw. Mae gyda fi wybodaeth sylfaenol o HTML, on mae'r adran ar XHTML yn ddefnyddiol iawn. Cwpwl o bethe. Yn yr adran XHTML http://www.wetwork.org.uk/xhtml.php mae gofod anferth gwyn gwag ar waelod 'Beth yw XHTML?' a 'Strwythur'. Oes rhywbeth fod ymddangos yma? Yn yr adran 'Tagiau' mae'r is-adran 'Delweddau' yn ymddangos 2 waith.Mae'r adran 'Enghreifftiau' yn wag i gyd gyda is-bennawd 'Ffurflenni a lot o ofod gwag oddi tano.

Ffili aros nes bod yr adran 'css' yn barod, achos mae rhaid i fi ddysgu hwn!!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Duw » Llun 08 Medi 2008 12:42 pm

Diolch Hedd,
Mae'r adran XHTML yn anghyflawn, er bron a'i gorffen. Mae'r gofodau ar waelod y 2 tab cyntaf yn bwrpasol (neu nid oes modd eu hosgoi). Y rheswm am hyn yw fy mod wedi defnyddio effaith tabio javascript sydd yn gosod hyd y tab i'r hyd uchaf o bob un. Oherwydd bod tab 3 (tagiau) yn hir ofnadwy, mae hwn yn rhoi ardal gwag ar waelod tab 1 a 2. Gwnaf osod neges i ddweud "diwedd y tab " neu debyg.

Diolch am bwyntio allan y dyblygiad ar ddelweddau - gwnaf gael gwared ar hyn.

Darn ar ffurflenni a thablau i ddod. Gwnaf osod enghreifftiau unwaith i mi orffen disgrifiad y tagiau.

Ie - CSS ar y gweill. :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Mali » Llun 08 Medi 2008 3:36 pm

Diolch Beni a Duw am y wybodaeth , ond berryg mai rhoi'r ffidl yn y tô wnai cyn cychwyn . :wps: Yr unig brofiad sgen i efo tudalen we ydi gweithio ar fy mlog, ond mae'n debyg fod hyn yn sylfaenol i gymharu a thudalen we 'go iawn' ydi ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Ti 'di beni? » Llun 08 Medi 2008 10:26 pm

Gan ddibynnu ar be ydi dy fusnes, gall blogger gynnig rhywbeth i ti.

Defnyddia fo fel blog i'r busnes, a ysgrifenna erthyglau diddorol am dy faes, i ddangos dy arbennigedd. Bydd hyn yn codi dy broffil yn dy faes, a (gobeithio) yn arwain at bobl yn codi'r ffon.

http://www.google.com/search?q=blogging ... e+business

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Duw » Llun 08 Medi 2008 11:21 pm

Syniad gwych Beni.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Rhys » Maw 09 Medi 2008 7:43 pm

Cytuno gyda'r uchod ynglyn a chael rhywun i wendu y gwith drostat. Dylai ddim bod yn ddrud iawn os mae gwefan 'static' wyt ti eisiau.

Ti 'di beni? a ddywedodd:Gan ddibynnu ar be ydi dy fusnes, gall blogger gynnig rhywbeth i ti.

Defnyddia fo fel blog i'r busnes, a ysgrifenna erthyglau diddorol am dy faes, i ddangos dy arbennigedd. Bydd hyn yn codi dy broffil yn dy faes, a (gobeithio) yn arwain at bobl yn codi'r ffon.


Yn bendant, dylet ystyried hyn (er, tydw i ddim wedi gwenud job dda o ddiweddaru fy mlog busnes i, ac felly heb roi dolen iddo o'r prif wefan)

Os wyt yn cael rhywun i wneud gwefan i'r busnes, galli di gael dolen at y blog ohono, neu gwell fyth, gofyna i'r sawl sy'n adeiladu'r wefan, os oes modd cyfuno'r ddau, fel bod unrhyw beth ti'n sgwennu ar y blog yn ymddangos fel tudalen newyddion y wefan (yn defnyddio RSS y blog, fel sy'n digwydd gyda dy flog personopl rwan fel bod dy gofnodion diweddaraf yn ymddangos ar y blogiadur). Gobeithio bod hyna'n gwenud sens.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Dylunio tudalen we.

Postiogan Mali » Maw 09 Medi 2008 10:55 pm

Diolch i bawb am y syniadau, ac am y cyngor ! :D Felly pa blogger fasa chi'n gymeradwyo i mi i'w drio ? Dim ond blogspot dwi 'di ddefnyddio hyd yma efo fy mlog personol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron