Oes gan unrhyw un gopi o Windows XP Media Centre Edition 2005? Mae gyda fi gliniadur sy'n methu cychwyn, a dwi isio glanhau y disg yn llawn, ac ail osod Windows XP Media Centre Edition 2005 ar y gliniadur, ond does dim gyda fi'r ddisg ddaeth gyda'r cyfrifiadur. Mae gyda fi cod trwydded ar gyfer y Windows XP gyda llaw, felly nid yw hyn yn torri'r gyfraith, gan mai talu am y drwydded i chi'n ei wneud,ac nid am y CD, a wnes i dalu am y drwydded pan yn prynu'r gliniadur.
Oes gyda unrhyw un gopi o hwn y gellir ei losgi ar ddisgiau gwag (angen 4) neu ar DVD a'i ddanfon ataf i? Byddai'n barod i dalu am y disgiau gwag ac am y cost postio wrth gwrs.
Gyda llaw, gliniadur Acer yw hwn, ond fi wedi llwyddo i ddileu y copi wrth gefn o'r CD oedd wedi ei arbed mewn adran cudd o'r ddisg galed trwy gamgymeriad, ac felly yn methu ail lwytho Windows o'r man yma. Nid yw Acer yn cynnwys CD's pan chi'n prynu gliniadur. Wedi siarad gyda Acer, ac ma nhw'n dweud ei fod yn iawn i fi fenthyg CD gan ffrind ar yr amod fy mod i'n rhoi fy nghod trwydded fy hunan i mewn pan yn ei osod. Bydd rhaid i fi wedyn lawrlwytho gyrwyr Acer ayb o wefan Acer.