Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 18 Medi 2008 11:09 am

Oes gan unrhyw un gopi o Windows XP Media Centre Edition 2005? Mae gyda fi gliniadur sy'n methu cychwyn, a dwi isio glanhau y disg yn llawn, ac ail osod Windows XP Media Centre Edition 2005 ar y gliniadur, ond does dim gyda fi'r ddisg ddaeth gyda'r cyfrifiadur. Mae gyda fi cod trwydded ar gyfer y Windows XP gyda llaw, felly nid yw hyn yn torri'r gyfraith, gan mai talu am y drwydded i chi'n ei wneud,ac nid am y CD, a wnes i dalu am y drwydded pan yn prynu'r gliniadur.

Oes gyda unrhyw un gopi o hwn y gellir ei losgi ar ddisgiau gwag (angen 4) neu ar DVD a'i ddanfon ataf i? Byddai'n barod i dalu am y disgiau gwag ac am y cost postio wrth gwrs.

Gyda llaw, gliniadur Acer yw hwn, ond fi wedi llwyddo i ddileu y copi wrth gefn o'r CD oedd wedi ei arbed mewn adran cudd o'r ddisg galed trwy gamgymeriad, ac felly yn methu ail lwytho Windows o'r man yma. Nid yw Acer yn cynnwys CD's pan chi'n prynu gliniadur. Wedi siarad gyda Acer, ac ma nhw'n dweud ei fod yn iawn i fi fenthyg CD gan ffrind ar yr amod fy mod i'n rhoi fy nghod trwydded fy hunan i mewn pan yn ei osod. Bydd rhaid i fi wedyn lawrlwytho gyrwyr Acer ayb o wefan Acer.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 18 Medi 2008 1:01 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes gan unrhyw un gopi o Windows XP Media Centre Edition 2005? Mae gyda fi gliniadur sy'n methu cychwyn, a dwi isio glanhau y disg yn llawn, ac ail osod Windows XP Media Centre Edition 2005 ar y gliniadur, ond does dim gyda fi'r ddisg ddaeth gyda'r cyfrifiadur. Mae gyda fi cod trwydded ar gyfer y Windows XP gyda llaw, felly nid yw hyn yn torri'r gyfraith, gan mai talu am y drwydded i chi'n ei wneud,ac nid am y CD, a wnes i dalu am y drwydded pan yn prynu'r gliniadur.

Oes gyda unrhyw un gopi o hwn y gellir ei losgi ar ddisgiau gwag (angen 4) neu ar DVD a'i ddanfon ataf i? Byddai'n barod i dalu am y disgiau gwag ac am y cost postio wrth gwrs.

Gyda llaw, gliniadur Acer yw hwn, ond fi wedi llwyddo i ddileu y copi wrth gefn o'r CD oedd wedi ei arbed mewn adran cudd o'r ddisg galed trwy gamgymeriad, ac felly yn methu ail lwytho Windows o'r man yma. Nid yw Acer yn cynnwys CD's pan chi'n prynu gliniadur. Wedi siarad gyda Acer, ac ma nhw'n dweud ei fod yn iawn i fi fenthyg CD gan ffrind ar yr amod fy mod i'n rhoi fy nghod trwydded fy hunan i mewn pan yn ei osod. Bydd rhaid i fi wedyn lawrlwytho gyrwyr Acer ayb o wefan Acer.


Acer sda Mam, ma fe'n rhyw 2 flwydd oed yn unig ond mor araf a malwen yn barod, Dim ond £250 oedd e a basically ma hynny'n dangos nawr. Wedi trio ail osod popeth ond ma fe dal yn araf tost, so wnes i brynnu iBook G3 iddi ar ebay am £140 yn lle, ma fe'n rhyw 5 mlwydd oed ond run mor sydyn ag odd e mas o'r bocs a sicr yn well na'r Acer £250 2 flwydd oed. Ddim lot o help i ti Hedd sori, ond tip i bobl yn y dyfodol... peidiwch prynnu laptops tsiep PC
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 19 Medi 2008 8:25 am

Unrhywun gyda copi o hwn? plis? :(
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan ceribethlem » Gwe 19 Medi 2008 10:07 am

Ti ffili gofyn am gopi wrth Microsoft?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 19 Medi 2008 10:13 am

ceribethlem a ddywedodd:Ti ffili gofyn am gopi wrth Microsoft?


Na yn anffodus. Gan mod i wedi prynu y cyfrifiadur gyda Windows wedi ei osod arno yn barod gyda 'bundle' Acer, Acer sy'n gyfrifol ac nid Microsoft. Pan ti'n agor y cyfrifiadur am y tro 1af, mae'n dweud wrtho ti am losgi copi o Windows ar 4 neu 5 CD, ond doedd dim gyda fi ar y pryd, ac wedyn wnes i anghofio. Dwi'n methu agor (neu efallai ei fod wedi ei ddileu) yr 'hidden partition' sy'n cynnwys y copi o Windows rhagor. Acer yn dweud tyff lyc felly, a bod rhaid i mi dalu £60 am gopi arall o'r meddalwedd!! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 19 Medi 2008 4:00 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan Kez » Gwe 19 Medi 2008 9:35 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:[ Acer yn dweud tyff lyc felly, a bod rhaid i mi dalu £60 am gopi arall o'r meddalwedd!! :ofn:



Pay the £60 quid - you tight bastard :D :winc: :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan ffwrchamotobeics » Gwe 19 Medi 2008 9:48 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Unrhywun gyda copi o hwn? plis? :(


Oes - a mi neith weithio gyda dy serial. Wedi gorfod neud lot o weithie gyda fy hen laptop doji. Rho neges bersonol.
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: Help: Copi o Windows XP Media Centre Edition 2005?

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 22 Medi 2008 9:49 pm

Diolch i ti ffwrch! Wedi danfon neges bersonol. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron