Tudalen 1 o 1

Open Office - problem gyda'r fersiynau

PostioPostiwyd: Iau 18 Medi 2008 11:34 am
gan jac
Dwi wedi gosod y fersiwn Gymraeg 2.40 o Open Office ar fy ngyfrifiadur - ond dwi'n awyddus i gael y fersiwn dwyieithog (2.0) - i hwyluso'r broses o newid y rhyngwyneb a'r geiriaduron o un iaith i'r llall. Oes modd cael estyniad (extension) i fersiwn 2.40 o Open Office sy'n ychwanegu'r botymau newid iaith ag ati sydd ar gael ar fersiwn dwyieithog 2.0? Fel mae pethau'n ar hyn o bryd bydd angen i mi ddileu fersiwn 2.40 o Open Office cyn gosod fersiwn dwyieithog 2.0 - a dwi ddim yn awyddus i fynd yn ôl at fersiwn hŷn. Mae modd newid o'r Gymraeg i'r Saesneg ac yn ôl gyda fersiwn 2.40 (Tools>Options>Language Settings>ayyb) - ond mae'n broses hir-wyntog a lletchwith.