eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Medi 2008 6:47 pm

Damo, trychineb cyfrifiadurol arall, a fi'n brysur rhedeg mas o gyfrifiaduron i'w defnyddio! :?

Tro yma yr eMac. Am rhyw reswm, mae'n llwytho lan, mynd trwy'r camau cychwynnol yn ol yr arfer (er bach yn araf), yna mae sgrin las yn dod am hydoedd. Wnes i ei adael am bach a dod nol a roedd tudalen llawn (cefndir du, sgrifen gwyn) o'r frawddeg ganlynol:

hfs_relocate: didn't move into metadata zone


Wedi chwilio am ddatrysiad, ond yr unig un allaf i weld yw ail osod Mac OSX trwy ddefnyddio'r CD's cefais i gyda'r Mac. O'r hyn fi'n deall, mae modd gwneud 'Archive and Install' rhyw ffordd, ond ddim yn siwr sut! Unrhyw help??
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan huwwaters » Maw 23 Medi 2008 7:16 pm

Dwi'm yn siwr be sy di digwydd ond HFS+ yw'r filesystem mae OS X yn ei ddefnyddio.

Wyt ti wedi trio y datrysiadau posib efo Onyx? http://www.titanium.free.fr/pgs/english.html

Tria repair disk permissions a be bynnag arall sydd ar gael. O be dwi'n dyfalu bydd angen ailwneud y filesystem ar y partition, felly fydd angen gneud ategiad o'r data, a neud boot o'r CD ddaeth efo'r comp.

Cyn gwneud hyn tria ailosod y PRAM a NVRAM http://support.apple.com/kb/HT1379
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Medi 2008 9:08 pm

huwwaters a ddywedodd:Dwi'm yn siwr be sy di digwydd ond HFS+ yw'r filesystem mae OS X yn ei ddefnyddio.

Wyt ti wedi trio y datrysiadau posib efo Onyx? http://www.titanium.free.fr/pgs/english.html

Tria repair disk permissions a be bynnag arall sydd ar gael. O be dwi'n dyfalu bydd angen ailwneud y filesystem ar y partition, felly fydd angen gneud ategiad o'r data, a neud boot o'r CD ddaeth efo'r comp.

Cyn gwneud hyn tria ailosod y PRAM a NVRAM http://support.apple.com/kb/HT1379


Oes modd rhedeg Onyx o CD? Os ddim, does dim modd i mi drio hwn gan nad wy'n gallu agor y cyfrifiadur.

Wedi rhoi y CD cefais i gyda'r Mac i mewn, ac wedi trio 'repair disk' a 'repair disk permissions' ac mae'n gwneud rhywbeth am amser hir, a wedyn neges yn dod yn dweud ei fod wedi methu. Hefyd wedi trio 'Archive and Install' trwy ddefnyddio'r CD ddaeth gyda'r cyfrifiadur, ond hyn yn methu hefyd! :?

Wnai drio PRAM a NVRAM nawr...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan Barbarella » Mer 24 Medi 2008 8:52 am

DiskWarrior tishe - os nag yw hwnna'n gallu datrys y broblem, sdim byd yn. Er bod ti'n gallu archebu arlein a lawrlwytho copi, bydd angen i ti aros am y CD yn anffodus, er mwn allu bwtio oddi ar hwnna. (Neu os oes Mac arall yn handi gen ti, cysylltu'r ddau efo Firewire a rhoi'r eMac yn target mode a rhedeg DW ar y llall.)

Un peth posib i drio yn y cyfamser - bwtio oddi ar y cd OS X eto, ac yn Disk Utility, tria ddiffodd Journaling ar gyfer dy ddisg caled, ac ailddechrau. Unrhyw lwc?

Bosib bod y dreif yn dechrau marw yn gorfforol - ti wedi cadw copiau wrth gefn, wrth gwrs, yndo? :o
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Re: eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan krustysnaks » Mer 24 Medi 2008 9:58 am

Tra ein bod ni'n sôn am MacAfalau'n mycio fyny, pan dwi'n defnyddio fy modem bach USB, dwi'n cael y neges bod rhaid i fi ailgychwyn fy nghyfrifiadur (MacBook) a gwneud hard reboot. Y rheswm sy'n dod i fyny ydi 'unresolved kernel trap' - gwneud synnwyr i rywun? Dio ddim yn digwydd mewn unrhyw batrwm - dwi'n gwneud rhywbeth gwahanol bob tro mae'n cloi ac mae dau fersiwn gwahanol o'r feddalwedd cysylltu gyda'r we yn cloi'r cyfrifiadur hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 24 Medi 2008 6:06 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:O'r hyn fi'n deall, mae modd gwneud 'Archive and Install' rhyw ffordd, ond ddim yn siwr sut! Unrhyw help??


Allet ti ddefnyddio cd byw Ubuntu neu ddosraniad arall o linux i neud copi wrth gefn o dy wybodaeth a ffeiliau ar co bach usb gyntaf. O leia fydd gen ti gopi wrth gefn os eith hi'n gachu hwch wrth wneud 'Archive and Install'.

Hwn yn esbonio sut: siwr ei fod rhywbeth tebyg yn Mac a Windows, er does gen i ddim mac.
http://www.howtogeek.com/howto/windows- ... -computer/
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Re: eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 24 Medi 2008 6:18 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Re: eMac pallu llwytho - hfs_relocate: didn't move into metadata

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 24 Medi 2008 9:45 pm

Barbarella a ddywedodd:DiskWarrior tishe - os nag yw hwnna'n gallu datrys y broblem, sdim byd yn. Er bod ti'n gallu archebu arlein a lawrlwytho copi, bydd angen i ti aros am y CD yn anffodus, er mwn allu bwtio oddi ar hwnna. (Neu os oes Mac arall yn handi gen ti, cysylltu'r ddau efo Firewire a rhoi'r eMac yn target mode a rhedeg DW ar y llall.)

Un peth posib i drio yn y cyfamser - bwtio oddi ar y cd OS X eto, ac yn Disk Utility, tria ddiffodd Journaling ar gyfer dy ddisg caled, ac ailddechrau. Unrhyw lwc?

Bosib bod y dreif yn dechrau marw yn gorfforol - ti wedi cadw copiau wrth gefn, wrth gwrs, yndo? :o



Diolch am eich help. Pan dwi'n mynd i 'Disk Utility' mae'r icon 'EDnable Journal' yn llwyd, does dim modd gwasgu arno. Ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai