gan 7ennyn » Mer 01 Hyd 2008 5:02 pm
Os dwi wedi dallt yn iawn, mae gan dy jpegs ymylon du sydd yn blendio i fewn i'r llun, ac mi wyt ti'n trio eu newid i fod hefo ymylon gwyn sydd yn blendio i fewn. Ydw i wedi dy ddallt yn iawn?
Be fedri di wneud ydi creu haen tryloyw newydd hefo border gwyn wedi ei blyrio. Os gei di led y border a maint y blyr yn iawn, mi ddylai hyn guddio'r border du yn weddol effeithiol. Dyma sut y byswn i yn gwneud hyn gan ddefnyddio GIMP:
Creu ffeil newydd hefo'r un hyd a lled a dy jpegs.
Creu haen newydd (Layer > New Layer).
Llenwi'r haen hefo gwyn.
Dethol petryal yng nghanol yr haen gan adael hynny o bicsels wyt ti isio rownd yr ymylon. Pwyso 'Delete' a bydd gen ti ffenest dryloyw hefo ffram gwyn.
Dos i Filters > Blur > Gaussian Blur, a ffidla o gwmpas hefo'r dewisiadau nes y gweli di rhywbeth tebyg i be wyt ti isio yn y ffenest rhagolwg a pan ti'n hapus, clicia 'Ok'.
Cadwa'r ffeil yn fformat .xcf fel y medri di ei ail-ddefnyddio ar gyfer pob un o dy jpegs (gan gymryd eu bod i gyd yr un maint). Wedyn y cwbwl sydd raid i ti ei wneud ydi gosod y llun mewn haen o dan y ffram gwyn ti newydd ei wneud a'i gadw ar ffurf jpeg.