Cael gwared o 'border' du sydd o amgylch JPEG

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cael gwared o 'border' du sydd o amgylch JPEG

Postiogan e-fugail » Mer 01 Hyd 2008 1:37 pm

Mae gen i 2 delwedd JPEG dwi angen gosod ar dempled gwyn, dwi eisiau'r JPEG's blendio fewn i'r templed gwyn. Mae gan y JPEG'S borderi du o amgylch nhw, oes modd sydyn o gael gwared â'r borderi du yn paint/m'soft picture manager neu photoshop?
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: Cael gwared o 'border' du sydd o amgylch JPEG

Postiogan eusebio » Mer 01 Hyd 2008 2:50 pm

defnyddia'r magic eraser yn Photoshop - yr un efo * bach nesaf at yr icon ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Cael gwared o 'border' du sydd o amgylch JPEG

Postiogan 7ennyn » Mer 01 Hyd 2008 5:02 pm

Os dwi wedi dallt yn iawn, mae gan dy jpegs ymylon du sydd yn blendio i fewn i'r llun, ac mi wyt ti'n trio eu newid i fod hefo ymylon gwyn sydd yn blendio i fewn. Ydw i wedi dy ddallt yn iawn?

Be fedri di wneud ydi creu haen tryloyw newydd hefo border gwyn wedi ei blyrio. Os gei di led y border a maint y blyr yn iawn, mi ddylai hyn guddio'r border du yn weddol effeithiol. Dyma sut y byswn i yn gwneud hyn gan ddefnyddio GIMP:

Creu ffeil newydd hefo'r un hyd a lled a dy jpegs.

Creu haen newydd (Layer > New Layer).

Llenwi'r haen hefo gwyn.

Dethol petryal yng nghanol yr haen gan adael hynny o bicsels wyt ti isio rownd yr ymylon. Pwyso 'Delete' a bydd gen ti ffenest dryloyw hefo ffram gwyn.

Dos i Filters > Blur > Gaussian Blur, a ffidla o gwmpas hefo'r dewisiadau nes y gweli di rhywbeth tebyg i be wyt ti isio yn y ffenest rhagolwg a pan ti'n hapus, clicia 'Ok'.

Cadwa'r ffeil yn fformat .xcf fel y medri di ei ail-ddefnyddio ar gyfer pob un o dy jpegs (gan gymryd eu bod i gyd yr un maint). Wedyn y cwbwl sydd raid i ti ei wneud ydi gosod y llun mewn haen o dan y ffram gwyn ti newydd ei wneud a'i gadw ar ffurf jpeg.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Cael gwared o 'border' du sydd o amgylch JPEG

Postiogan e-fugail » Iau 02 Hyd 2008 8:56 am

[quote="7ennyn"]Os dwi wedi dallt yn iawn, mae gan dy jpegs ymylon du sydd yn blendio i fewn i'r llun, ac mi wyt ti'n trio eu newid i fod hefo ymylon gwyn sydd yn blendio i fewn. Ydw i wedi dy ddallt yn iawn?[/quot

Ie - ond dim ond Paint/m'soft Piocture Manager/photoshop fedrai defnyddio oherwydd fedrai ddim llwytho rhaglenni lawr ar rhwydwaith gwaith...ond fedrai malu cachu ar maes-e
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: Cael gwared o 'border' du sydd o amgylch JPEG

Postiogan huwwaters » Iau 02 Hyd 2008 10:21 am

e-fugail a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Os dwi wedi dallt yn iawn, mae gan dy jpegs ymylon du sydd yn blendio i fewn i'r llun, ac mi wyt ti'n trio eu newid i fod hefo ymylon gwyn sydd yn blendio i fewn. Ydw i wedi dy ddallt yn iawn?[/quot

Ie - ond dim ond Paint/m'soft Piocture Manager/photoshop fedrai defnyddio oherwydd fedrai ddim llwytho rhaglenni lawr ar rhwydwaith gwaith...ond fedrai malu cachu ar maes-e


Fedri di ddim defnyddio Microsoft Photo Editor, wedyn cropio'r llun i gael gwared o'r ffram?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Cael gwared o 'border' du sydd o amgylch JPEG

Postiogan e-fugail » Iau 02 Hyd 2008 10:44 am

dyna be nes i yn diwedd, syml
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai